Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi dweud bod angen “ystyried cau ysgolion” ar gyfer gwyliau’r Nadolig wythnos ynghynt.

Daw hyn yn dilyn cyfraddau Covid-19 “dychrynllyd” yn y sir, sydd eisoes wedi arwain at ddeg ysgol yn ail-gyflwyno dysgu ar-lein a lleihau ar nifer y disgyblion sy’n mynychu eu safleoedd.

Mae’r sir wedi gweld cyfraddau uwch nag unrhyw awdurdod arall yn gyson dros yr wythnosau diwethaf, gyda lefelau uchel yn ardaloedd Caernarfon, Y Bala, Blaenau Ffestiniog, Dolgellau a Phen Llŷn.

Yn y saith diwrnod hyd at ddydd Gwener, 27 Tachwedd, roedd 837.3 achos o Covid-19 wedi eu cofnodi yn y sir i bob 100,000 o’r boblogaeth.

Roedd galwadau wedi bod wythnos diwethaf i gau pob ysgol yng Nghymru yn gynt na’r arfer, er mwyn sicrhau bod digon o amser rhwng cau ysgolion a chymysgu dros yr ŵyl.

Cau ysgolion yn fuan

Ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru heddiw (dydd Gwener, 3 Rhagfyr), cafodd arweinydd Cyngor Gwynedd ei holi ynglŷn â chyflwyno cyfyngiadau lleol er mwyn lleihau ffigyrau Covid-19 “dychrynllyd” y sir.

“Dw i ddim yn credu bod hynny’n bosib,” meddai Dyfrig Siencyn.

“Mae’n ymddangos ei fod o’n lledaenu drwy ysgolion a thrwy gymdeithasu tu allan i ysgolion.

“Mi fyddai’n anodd gosod cyfyngiadau cyn y Nadolig, wrth gwrs penderfyniad y llywodraeth ydy hynny ac mae’n rhaid dilyn y cyngor gwyddonol.

“Dw i’n credu bod lle i ystyried a ddylen ni fod yn cau ysgolion am yr wythnos olaf cyn y Nadolig, er mwyn rhoi rhyw fath o doriad cyn inni gyd ddechrau cymdeithasu gyda’n gilydd.

“Mae’r neges yn glir eto: byddwch yn ofalus, cadwch bellter cymdeithasol, golchwch eich dwylo, a gwisgwch fwgwd.

“Mae’r darogan yn dweud ein bod ni wedi cyrraedd y pegwn, ac rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n gweld gostyngiadau.”

Dysgu ar-lein

Mae’r Cyngor eisoes wedi ailgyflwyno dysgu ar-lein ar gyfer rhai blynyddoedd mewn deg ysgol yn y sir.

Dywedodd Dafydd Williams, Cadeirydd Grŵp Atal ac Arolygu Covid-19 Gwynedd, bod hyn er mwyn atal a rheoli clystyrau o achosion.

“Mae nifer yr achosion yng Ngwynedd yn sefydlog ond yn parhau i fod yn destun pryder ac rydym yn annog pob preswylydd i barhau i chwarae eu rhan i gadw ein cymunedau’n ddiogel,” meddai.

“Rydym wedi gweld achosion o Covid-19 mewn ysgolion ar draws y sir.

“Pan nodir achosion mewn ysgol mae trefniadau cadarn ar waith i reoli’r gadwyn drosglwyddo.

“Mae mesurau amddiffyn ychwanegol yn cael eu defnyddio pan fydd 10% o ddisgyblion mewn dosbarthiadau neu flynyddoedd ysgol wedi profi’n bositif am Covid-19, gyda dysgu rhithwir yn cael ei fabwysiadu pan fydd 25% yn cael eu profi’n bositif.

“O’r 94 o ysgolion uwchradd a chynradd yng Ngwynedd, mae gan ddeg o’r rheiny rai dosbarthiadau neu flynyddoedd ysgol ar hyn o bryd yn derbyn eu haddysg ar-lein.

“Mae’r dull wedi’i dargedu wedi’i gymeradwyo gan arbenigwyr iechyd y cyhoedd ar y grŵp amddiffyn a gwyliadwriaeth.

“Mae’n ein helpu i reoli unrhyw glystyrau o achosion ac i gadw disgyblion, a gweddill poblogaeth Gwynedd yn ddiogel rhag effeithiau Covid-19.”