Mae Cynghorydd y Coed Duon, Kevin Etheridge, “ar ben ei ddigon” ar ôl cael ei enwi’n Bencampwr Cymunedol y flwyddyn mewn seremoni wobrwyo fawr.

Mae Gwobrau Cynghorwyr Uned Wybodaeth Llywodraeth Leol (LGIU) a’r Awdurdodau Lleol, Eglwysi ac Elusennau (CCLA) 2021 yn dathlu gwaith da cynghorwyr lleol dros Gymru a Lloegr.

Enillodd y Cynghorydd Etheridge, sy’n arwain y grŵp Annibynnol ar Gyngor Sirol Bwrdeistref Caerffili, Wobr y Pencampwr Cymunedol am ei “lefel ragorol o ymrwymiad”, a’i “waith yn arwain ymgyrchoedd llwyddiannus” megis gwella diogelwch ffyrdd, gwella cysylltiadau trafnidiaeth i ysbytai lleol, ac ymgyrchoedd yn erbyn cynlluniau adeiladu ymwthiol.

Fe wnaeth y Cynghorydd Etheridge dderbyn 676 o enwebiadau ar gyfer y wobr gan breswylwyr dros y sir.

Dywedodd: “Ar ddiwedd y dydd, mae’r wobr hon yn ymwneud â’r gymuned a dw i’n ei hystyried fel gwobr y bobol. Mae hon i’r preswylwyr a’u holl waith caled.”

Codi ymwybyddiaeth am ganser

Derbyniodd y Cynghorydd Etheridge ganmoliaeth am ei waith ar ymgyrch sydd wedi creu gwelliannau i fywydau pobol â chanser.

Yn 2019, cafodd y Cynghorydd Etheridge ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 60 oed. Ers hynny, mae e wedi bod wrthi’n codi ymwybyddiaeth am yr afiechyd.

Cafodd ddiagnosis cynnar a chafodd lawdriniaeth i dynnu’r tiwmor, a oedd yr un maint â phêl tennis, o’i goluddyn.

Roedd wedi anwybyddu’r pecyn profi a gafodd ei yrru ato, yn wreiddiol, ac ni wnaeth werthfawrogi ei bwysigrwydd ar y pryd. Yna, aeth at ei feddyg teulu ar ôl teimlo’n sâl, a chafodd ddiagnosis wedyn gan arbenigwr.

Dim ond 55% o bobol Cymru sy’n derbyn y cynnig a chwblhau’r profion sgrinio hyn, sy’n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Iechyd a’u darparu drwy Sgrinio Coluddion Cymru.

Mae’r Cynghorydd Etheridge nawr yn hyrwyddwr mawr dros y profion sgrinio, ar ôl ei brofiad.

Dywedodd: “Mae hi’n hanfodol cymryd y prawf sgrinio er mwyn dal yr afiechyd ofnadwy hwn yn gynnar.”

Mae’r Cynghorydd Etheridge yn cymryd rhan mewn sesiynau am ddim sy’n cael eu cynnal gan Ganser y Coluddyn UK yn gyson er mwyn esbonio’r symptomau.

“Y gorau o lywodraeth leol”

Dywedodd Jonathan Carr-West, Prif Weithredwr LGIU: “Hoffwn estyn llongyfarchiadau anferth i’r Cynghorydd Etheridge. Rydyn ni’n diolch i chi am eich gwasanaeth, ac yn edrych ymlaen at glywed am eich llwyddiannau parhaus yn y dyfodol.”

Cafodd mwy na 400 o bobol eu henwebu am y gwobrau, a hynny o bob cwr o Gymru a Lloegr.

Y Cynghorydd Etheridge oedd yr unig gynghorydd o Gymru oedd ar y rhestr ar gyfer derbyn gwobr y Pencampwr Cymunedol.

Ym mis Mai 2021, fe wnaeth y Cynghorydd Etheridge sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau’r Senedd dros etholaeth Islwyn, a derbyniodd fwy o bleidleisiau nag unrhyw ymgeisydd Annibynnol arall dros Gymru.

Cafodd y gwobrau eu cynnal yn Camden, Llundain ddydd Mercher, 1 Rhagfyr, a chafodd y seremoni ei darlledu’n fyw ar YouTube.

Panel o feirniaid, a oedd yn cynnwys cynghorwyr profiadol a swyddogion, oedd yn penderfynu ar yr enillwyr.

Dywedodd Jonathan Carr-West: “Rydyn ni’n eithriadol o falch ein bod ni’n gallu datgelu enillwyr Gwobrau’r Cynghorwyr eleni. Mae’r cynghorwyr hyn wedi dangos y gorau o lywodraeth leol dros Loegr a Chymru.

“Ar adeg pan mae ein cymunedau wedi profi heriau a phwysau heb eu tebyg, mae’r cynghorwyr hyn yn arwain y ffordd tuag at adferiad.”