Mae’r BBC wedi cyhoeddi mai Sophie Raworth fydd yn cyflwyno rhaglen wleidyddol sydd am gymryd lle The Andrew Marr Show ar foreau Sul yn y flwyddyn newydd.

Mi fydd hi yn cyflwyno sioe newydd sydd eto i gael enw, a hynny dros dro.

Daw’r newyddion wedi i Andrew Marr gyhoeddi ei fod yn gadael y BBC wedi dau ddegawd o gyflwyno a dadansoddi straeon gwleidyddol.

Dywedodd y BBC y bydd Sophie Raworth yn cyflwyno sioe newydd am “gyfnod byr” tra bo’r broses o recriwtio olynydd parhaol i Andrew Marr yn mynd rhagddo.

Unwaith y bydd cyflwynydd parhaol wedi ei benodi, fe fydd sioe wleidyddol fore Sul newydd yn cael ei lansio gydag enw newydd.

Bydd Andrew Marr yn cyflwyno ei sioe olaf ar 19 Rhagfyr, cyn troi at fod yn Brif Sylwebydd Gwleidyddol cylchgrawn The New Statesman.

Roedd y newyddiadurwr 62 oed eisoes wedi dweud ei fod yn gadael y BBC er mwyn cael mynegi ei farn bersonol ar faterion mawr y dydd.