Gellid bod wedi osgoi damwain awyren laddodd un o beirianwyr y Red Arrows ym Môn, yn ôl crwner.
Bu farw’r Corporal Jonathan Bayliss, 41, ar 20 Mawrth, 2018, pan darodd jet Hawk yr oedd o ynddi’r llain lanio ar safle’r RAF yn y Fali.
Fe gafodd peilot yr awyren, David Stark, ei anafu – ond fe lwyddodd i oroesi wrth iddo bwyso botwm i daflu ei hun o’r awyren eiliadau cyn y gwrthdrawiad.
Fe gafodd cwest i’r farwolaeth ei gynnal yng Nghaernarfon fis diwethaf, ac mae’r crwner Katie Sutherland yn anfon adroddiad i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, yn amlinellu sut i osgoi marwolaethau o’r fath yn y dyfodol.
Mae’r crwner yn argymell gwella hyfforddiant rhithiol a gosod system o rybuddion yn yr awyren.
Casglodd bod y gwrthdrawiad wedi ei achosi oherwydd bod injan yr awyren wedi dod i stop wrth i’r peilot geisio ymarfer hedfan gydag injan yn methu tanio.
Dywedodd Katie Sutherland nad oedd y peilot wedi gallu rhagweld y byddai gwrthdrawiad hyd nes yr eiliadau olaf, oherwydd nad oedd dyfais i rybuddio fod yr injan ar fin dod i stop, wastad yn gweithio.
“Mae’r dystiolaeth yn dangos y gellid bod wedi osgoi’r gwrthdrawiad,” meddai’r crwner.
Ychwanegodd fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi methu cynnal y safonau o ofal angenrheidiol, ond nid i’r fath raddau nes bod modd casglu bod dynladdiad corfforaethol yn yr achos hwn.
Daeth y crwner i‘r casgliad bod Jason Bayliss wedi marw wedi iddo anadlu mwg ac oherwydd anaf i’w ben, ar ôl methu cael ei ejectio o’r awyren.
Fe gafodd Jason Bayliss ei eni yn Dartford, Caint, gan ymuno gyda’r RAF yn 2001 a chael dyrchafiad i dîm ‘y Syrcas’, sef criw bach o beirianwyr disglair oedd yn teithio gyda’r Red Arrows (The Royal Airforce Aerobatic Team) gan ddarparu cefnogaeth dechnegol.