Mae Aelod Seneddol Ceredigion wedi ymuno â’r ymgyrch i gyflwyno trefn fyddai yn caniatau amser i ffwrdd o’r gweithle gyda thâl i deuluoedd sy’n colli babi yn y groth cyn 24 wythnos o feichiogrwydd.

Bydd y Mesur Absenoldeb yn dilyn Camesgoriad yn mynd o flaen Tŷ’r Cyffredin am yr eildro heddiw (3 Rhagfyr), ac mae Ben Lake wedi addo cefnogi’r darpar ddeddf er mwyn sicrhau bod rhieni sy’n colli baban yn y groth yn gallu cael amser i alaru.

Mae un o bob pedwar beichiogrwydd yn dod i ben mewn camesgoriad, ond o dan y ddeddfwriaeth bresennol dim ond ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd mae gan weithwyr yr hawl i gael absenoldeb profedigaeth gyda thâl.

Byddai’r Bil yn caniatáu tri diwrnod o absenoldeb â thâl i rieni sy’n colli plentyn yn y groth cyn 24 diwrnod.

“Cau’r bwlch”

Dywedodd Ben Lake, yr Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, ei fod yn “falch” o gefnogi’r mesur gan “ei bod ond yn deg bod rhieni’n cael yr amser sydd ei angen arnyn nhw i alaru eu colled yn iawn”.

“Mae llawer o rieni yng Ngheredigion wedi profi camesgoriad, ac mae nifer wedi esbonio, er eu bod yn teimlo’r golled ingol am weddill eu bywydau, byddai cael amser i alaru yn syth ar ôl hynny wedi cynnig rhywfaint o gysur,” meddai Ben Lake.

“Ar hyn o bryd mae’n rhaid i rieni sy’n colli plentyn yn y groth ddibynnu ar ewyllys da eu cyflogwr neu gymryd absenoldeb salwch.

“Does dim bai ar neb am gamesgoriad, ond mae’r stigma sy’n gysylltiedig â hyn yn gallu rhoi rhieni mewn sefyllfa lle nad ydynt yn gallu galaru eu colled yn iawn.

“Mae gennym gyfle gyda’r Bil hwn i gau’r bwlch yn y gefnogaeth i deuluoedd sy’n profi camesgoriad.”

Mae deiseb, a gafodd ei chyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gan Angela Crawley, un o Aelodau Seneddol yr SNP,  yn galw am y newid y drefn, wedi denu 25,000 o lofnodion.

Fis diwethaf, fe wnaeth 53 aelod seneddol o naw plaid wleidyddol wahanol ac aelodau annibynnol arwyddo llythyr ar y cyd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi’r ymgyrch.