Bu i ddyn 28 oed lleol farw mewn gwrthdrawiad ffordd yn Ynys Môn neithiwr (dydd Iau, 2 Rhagfyr).

Fe ddigwyddodd y ddamwain ychydig cyn 17:30 ar yr A5 rhwng Rhostrehwfa a Thyrpeg Nant ar gyrion tref Llangefni, wrth i gar daro i mewn i wal ar ochr y ffordd.

Roedd y gyrrwr wedi marw yn y fan a’r lle, ac fe gafodd y dyn 25 oed oedd yn sedd y teithiwr ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gydag anafiadau difrifol.

Mae’r teithiwr hwnnw bellach wedi ei symud i’r uned trawma arbenigol yn Ysbyty Prifysgol Frenhinol Stoke.

Y Glas yn gofyn am gymorth

Mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio am unrhyw dystion i’r digwyddiad yn Ynys Môn.

“Mae ein cydymdeimladau dwysaf gyda theulu’r dyn ar yr adeg anodd hon,” meddai’r Sarjant Meurig Jones o’r Uned Plismona Ffyrdd.

“Mae ymchwiliad i ganfod beth ddigwyddodd ar y gweill. Credwn fod y Seat Leon wedi teithio ar yr A4080 o ardal Tŷ Croes ac yna wedi mynd ar y B4422, gan deithio drwy Langadwaladr, Bethel a Llangristiolus.

“Yna, teithiodd ar hyd yr A5 cyn taro i mewn i wal ac i mewn i gae cyfagos.

“Rydyn ni’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio’r ffordd honno ac a allai fod wedi gweld y Seat Leon cyn y gwrthdrawiad, neu i unrhyw un a allai fod â lluniau dash cam, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”

Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu â’r heddlu ar-lein, neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod 21000837019.