Mae dyn o Ben-y-bont ar Ogwr wedi ei ganfod yn euog o ddynladdiad ar ôl iddo ymosod ar ddyn 50 oed farw yn nhref Porthcawl.

Bu farw Carl Chinnock yn yr ysbyty yn sgil anafiadau difrifol i’w ben ym mis Mehefin eleni, ar ôl cael ei ddyrnu gan Christopher George.

Fe wnaeth Christopher George, 27, o Heol-y-Berllan, y Pîl ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar ôl pledio’n ddieuog.

Clywodd y llys sut y bu i Christopher George ddyrnu Carl Chinnock ar ôl noson yn yfed gyda’i ffrindiau ym Mhorthcawl ar 23 Mehefin 2021.

Yr achos

Doedd y ddau ddim yn adnabod ei gilydd, ac am tua 11:30 y nos roedd y diffynnydd yn cerdded gyda’i ffrindiau pan adawodd nhw i fynd at Carl Chinnock.

Clywyd Carl Chinnock yn gweiddi ym maes parcio Salt Lake ym Mhorthcawl, a dywedodd ffrindiau Christopher George eu bod nhw wedi gweld Carl Chinnock yn disgyn am yn ôl a tharo ei ben wedi i Christopher George ei ddyrnu yn ei wyneb.

Rhedodd y diffynnydd oddi yno a dal tacsi adref, gan adael ei ffrindiau i roi cymorth cyntaf i Carl Chinnock nes i’r heddlu a’r parafeddygon gyrraedd.

Clywodd y llys bod Christopher George wedi dweud wrth yrrwr y tacsi ei fod wedi rhoi ‘slap’ i rywun y noson honno.

Aethpwyd â Carl Chinnock i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond roedd wedi dioddef gwaedlyn difrifol ar yr ymennydd a bu farw bedwar diwrnod wedyn.

Ar ôl achos llys wnaeth bara tair wythnos, fe wnaeth y rheithgor ddyfarnu bod Christopher George yn euog o ddynladdiad, a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 7 Ionawr 2022.

“Chwilio am drwbl”

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis: “Fe wnaeth teulu a ffrindiau Carl ei golli oherwydd ymddygiad treisgar Christopher George.

“Rydyn ni’n gwybod o siarad gyda thystion bod y diffynnydd wedi cael ei danio gan alcohol a chyffuriau, a’i fod allan yn chwilio am drwbl y noson honno.

“Fel mae’r achos hwn yn ei ddangos, mae un dwrn yn gallu lladd – mae unrhyw un sy’n credu ei bod hi’n iawn ymddwyn yn dreisgar fel hyn tuag at berson arall yn gamblo gyda bywyd eu dioddefwr, ac un nhw’i hunan hefyd, wrth gwrs.

“Newidiodd bywyd Christopher George mewn ennyd y noson honno, ond fe wnaeth ei ddioddefwr, Carl Chinnock, golli ei fywyd heb fod angen.

“Mae fy meddyliau gyda theulu a ffrindiau Carl heddiw.”

Arestio dyn, 27, ar amheuaeth o lofruddiaeth

Cafwyd hyd i Carl Chinnock, 50, ym Mhorthcawl ar 23 Mehefin ar ôl cael anaf difrifol i’w ben