Mae’r achos cyntaf o amrywiolyn Omicron wedi ei ganfod yng Nghymru.

Cafodd yr achos ei ddarganfod yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac mae’n gysylltiedig â theithio rhyngwladol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n barod i ymateb yn gyflym i’r amrywiolyn hwn, sy’n cael ei ystyried fel amrywiolyn sy’n peri pryder.

Mae ymchwiliadau dwys a chamau cadarn o ran iechyd y cyhoedd ar waith i arafu ei ledaeniad, meddai’r Llywodraeth.

Mae effaith Omicron ar iechyd dal yn cael ei asesu, ond ar hyn o bryd does dim tystiolaeth sylweddol i awgrymu y bydd yn arwain at fath mwy difrifol o salwch.

Yn ôl arbenigwyr, gallai’r brechlynnau atgyfnerthu gynnig amddiffyniad da rhag y brechlyn.

“Wrth inni ddod i ddeall yr amrywiolyn hwn yn well, byddwn yn gallu pennu’r camau nesaf,” meddai Llywodraeth Cymru.

“Yn y cyfamser, cadw at y rheolau, dilyn y camau sy’n ein cadw’n ddiogel a manteisio ar y cynnig o frechlyn yw’r ffordd orau o hyd o’n diogelu ni’n hunain a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

Mae rhai newidiadau wedi cael eu gwneud i deithio rhyngwladol yn barod yn sgil yr amrywiolyn, yn ogystal â chamau i gyflymu ac ymestyn rhaglen atgyfnerthu ac ailgyflwyno mygydau mewn ysgolion.

Mae galwadau wedi bod am gau ysgolion Cymru yn gynt cyn y Nadolig er mwyn sicrhau bod digon o amser rhwng cau ysgolion a chymysgu dros yr ŵyl.

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd heddiw bod angen ystyried cau ysgolion wythnos ynghynt, yn sgil cyfraddau Covid “dychrynllyd” y sir.

Brechlyn pfizer

Gallai brechlynnau atgyfnerthu gynnig amddiffyniad da yn erbyn Omicron, meddai arbenigwyr

Mae’r astudiaeth hefyd yn cefnogi’r penderfyniad i gynnig Pfizer neu Moderna fel y trydydd dos

“Rhy gynnar i ddweud” a fydd angen cyfyngiadau Covid-19 newydd

Ond bydd rhaid i gysylltiadau agos ag achosion o Omicron hunanynysu am ddeng niwrnod, waeth beth yw eu statws brechu a’u hoedran