Mae tri dyn wedi osgoi carchar er iddyn nhw gladdu gwastraff yn anghyfreithlon, gan wneud elw o bron i £5 miliwn, yng Nghastell-nedd.
Rhwng y tri ohonyn nhw, cafodd Dennis Brian Connor, o The Barn, Pantlasau, Treforys, Howard Geary Rees o Dŷ Rheola, Resolfen, ac Eurid Huw Leyshon, o Fferm Pentwyn, Sgiwen gyfanswm o 52 mis o garchar wedi’i ohirio.
Hefyd yn rhan o’r gosb, bydd goyn iddyn nhw wneud 280 awr o waith di-dâl, a thalu dirwy o £353,000.
Bydd rhaid i’r tri dalu’r ddirwy o fewn tri mis, a chafodd cwmni Dennis Connor, DBC Site Services 2005 Ltd, orchymyn i dalu £75,411 ychwanegol.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y pedwar diffynnydd wedi gwneud elw anghyfreithlon o bron i £5 miliwn rhyngddyn nhw drwy osgoi costau cyfreithiol.
Claddu gwastraff mewn ffosydd dwfn
Yn 2016, derbyniodd Cyfoeth Naturiol Cymru adroddiad yn nodi bod lorïau mawr yn cludo gwastraff, a amheuwyd ei fod yn wastraff rheoledig, i safle Hen Waith Rheola yn Resolfen.
R M Rees Contractors oedd yn berchen ar y safle, a Howard Geary Rees oedd cyfarwyddwr y cwmni. Roedd yntau’n byw yn Nhŷ Rheola, sy’n ystâd restredig Gradd II gerllaw’r safle.
Rhoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru’r safle dan wyliadwriaeth a gwelwyd cerbydau mawr yn gollwng gwastraff ar y safle.
Gwelwyd peiriannau’n cloddio a gwastraff yn cael ei gladdu mewn ffosydd dwfn, cyn gwastatau’r ddaear i’w guddio. Roedd un o’r lorïau wedi’i chofrestru â DBC Site Services.
Nid oedd unrhyw drwyddedau amgylcheddol nag eithriadau gwastraff mewn grym yn unrhyw un o’r lleoliadau.
Cafodd Howard Rees a Dennis Connor eu harestio wedi hynny.
Gwastraff clinigol peryglus
Ar ôl gwneud gwaith tyllu ar safle Hen Waith Alwminiwm Rheola, darganfuwyd gwastraff wedi’i gloddio bedwar metr dan ddaear.
Roedd hwnnw’n cynnwys llawer iawn o wastraff trefol o Abertawe, gwastraff olewog o iardiau sgrap, a gwastraff clinigol peryglus.
Roedd y gwastraff clinigol wedi dod o un o ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd yn y de ddwyrain, ac roedd yn cynnwys chwistrellau â nodwyddau, a bagiau gwastraff heintus oren wedi’u darnio.
Dim ond drwy ei losgi ar dymheredd uchel y gellir cael gwared ar y math hwn o wastraff yn gyfreithlon, ac roedd ymddiriedolaeth yr ysbyty wedi’i drosglwyddo yn ddidwyll i gwmni arall ei waredu’n gyfreithlon.
Roedd rhywfaint o’r gwastraff yn y ddaear hefyd yn cynnwys asbestos, a chlywodd y llys fod yr asbestos a’r gwastraff clinigol yn peri risg i iechyd pobol a’r amgylchedd.
Cyfaddefodd Howard Rees ei fod wedi cadw cofnod o’r lorïau a’r llwythi a ddaeth i’w dir, a dangosodd y dogfennau ei fod wedi derbyn ‘ffioedd tipio’ gan Dennis Connor am waredu’r gwastraff.
Cyfaddefodd Dennis Connor iddo gael gwared ar y gwastraff trefol o Abertawe a Chaerfyrddin yn Rheola, a chyfaddefodd i gael gwared ar 2,676 tunnell arall o wastraff cartref wedi’i ddarnio’n fân yn Nhŷ Rheola.
Gwastraff o Birmingham
Daeth i’r amlwg hefyd bod talpiau anferth o wastraff wedi’u cludo o iardiau sgrap ym Mirmingham i Fferm Pentwyn, Sgiwen.
Roedd Dennis Connor wedi cael ei gontractio gan gwmni’r iardiau sgrap i gael gwared ar ronynnau mân olewog, a daethpwyd o hyd i’r gwastraff wedi’i gladdu 11 metr dan ddaear yn Fferm Pentwyn.
Huw Leyshon oedd yn berchen ar y fferm, ac roedd yn cael ei dalu gan Dennis Connor am waredu’r gwastraff.
Nid oedd ganddo drwydded i waredu’r gwastraff, ac roedd natur olewog y gwastraff yn golygu ei fod yn debygol o fod yn beryglus ac yn risg i’r amgylchedd.
“Effeithio ardal ehangach”
Dywedodd Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau ar gyfer De Orllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr achos hwn yn anfon neges gadarnhaol i’r rhai sy’n ceisio elwa drwy dorri’r gyfraith, na fydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n goddef niwed i gymunedau lleol na difrod i’r amgylchedd.
“Aeth effaith y gweithgareddau hyn y tu hwnt i ffiniau tir y diffynyddion, gan effeithio ar yr ardal ehangach.
“Mae gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon yn tanseilio busnesau sy’n buddsoddi yn y mesurau gofynnol ac felly mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu mewn achosion o’r fath i warchod pobl a’r amgylchedd, yn ogystal â diogelu’r farchnad ar gyfer gweithredwyr cyfreithlon.”