Bu yn rhaid i’r Cymro Osian Roberts, sy’n is-reolwr Crystal Palace, gamu i’r adwy i wynebu’r cyfryngau heddiw (dydd Gwener, 3 Rhagfyr) wedi i Patrick Vieira orfod gadael y sesiwn hyfforddiant yn gynnar oherwydd “mater teuluol”.
Fodd bynnag, mae Osian Roberts yn gobeithio y bydd y Ffrancwr wedi dychwelyd erbyn y gêm yn erbyn Manchester United yn Old Trafford ddydd Sul (5 Rhagfyr).
Roedd disgwyl i gyn-gapten Arsenal gynnal sesiwn hyfforddi fel yr arfer yng nghanolfan Beckenham y clwb, cyn bod gofyn iddo adael oherwydd mater brys.
Y Monwysyn Osian Roberts – oedd yn rhan o dîm hyfforddi Cymru yn Ewro 2016 – wnaeth arwain sesiwn olaf ond un Palas cyn y gêm dros y penwythnos, ac yna ymgymryd â dyletswyddau cynhadledd i’r wasg.
“Roedd Patrick i mewn fel arfer y bore ’ma yn paratoi ar gyfer hyfforddiant, ond yn anffodus cafodd alwad ffôn a bu’n rhaid iddo adael ar unwaith i fynd i fater brys i’r teulu,” meddai Osian Roberts yn y gynhadledd.
“Yn gyntaf oll mae fy meddyliau i gyda Patrick a’r teulu ond dw i yma’n trio gwneud yn siŵr ein bod ni’n dal i fynd fel staff.
“Mae gennym grŵp da o staff ac mae’r chwaraewyr wedi bod yn broffesiynol, felly cawsom sesiwn hyfforddi dda.”
‘Gobeithio y bydd Viera yn ôl’
Cyfaddefodd Osian Roberts fod absenoldeb y rheolwr yn gwneud gwahaniaeth, ond roedd yn croesi bysedd y bydd Patrick Vieira yn dychwelyd y penwythnos hwn.
“Rwy’n gobeithio y bydd o’n ôl,” meddai.
“Yn amlwg rydyn ni newydd orffen hyfforddi, dim ond dod oddi ar y cae felly, nid wyf wedi siarad ag ef ers y sesiwn hyfforddiant, ond rwy’n disgwyl y bydd yn dychwelyd fel arfer yfory.
“Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr pan nad yw Patrick yma oherwydd ef yw ein harweinydd, y rheolwr, ac rydych chi bob amser am ei gael wrth y llyw yn arwain pethau.
“Wrth gwrs mae gennym gyfrifoldeb yn yr amgylchiadau anffodus hyn i wneud popeth yn iawn i sicrhau bod popeth yn mynd gystal â phosib, mor llyfn â phosib nes ei fod yn ôl gyda ni.”
“Cael rhywbeth allan o’r gêm”
Os bydd Patrick Vieira ar gael y penwythnos hwn, bydd yn wynebu’r trydydd rheolwr i fod wrth y llyw yn Old Trafford y tymor hwn.
Cafodd Ralf Rangnick fisa ddydd Iau (2 Rhagfyr) i ddechrau ei swydd yn rheolwr dros dro, sydd i fod i bara tan ddiwedd yr ymgyrch.
Gadawodd Michael Carrick y clwb yn dilyn eu buddugoliaeth dros Arsenal ganol wythnos, wedi iddo gamu i’r adwy a dod yn rheolwr dros dro pan gafodd Ole Gunnar Solskjaer ei ddiswyddo fis diwethaf.
“Wrth gwrs pan ddaw rheolwr newydd i mewn mae’n amlwg bod potensial ar gyfer rhai newidiadau hyd yn oed yn y cyfnod byr y byddai wedi bod gyda’r tîm,” meddai Osian Roberts.
“Byddwn yn canolbwyntio ar ein perfformiad ein hunain ac yn ceisio cael rhywbeth allan o’r gêm.”