Bydd gemau’r Cymru Premier yn dychwelyd heno gyda gêm gyffrous rhwng y Bala a’r Seintiau Newydd ar Faes Tegid.

Mae’r Seintiau yn ceisio ymestyn eu mantais yn y safle cyntaf, sydd eisoes yn naw pwynt, wrth iddyn nhw geisio ennill yr uwchgynghrair am y tro cyntaf ers 2019.

Bydd y Bala yn targedu dim ond eu hail fuddugoliaeth mewn wyth gêm – rhediad sydd wedi eu gweld nhw’n disgyn i’r pumed safle – gyda Sgorio yn dangos y gêm yn fyw ar-lein.

Y pencampwyr dros y ddau dymor diwethaf, Cei Conna, fydd yn chwrae yng ngêm arall y Cymru Premier heno (dydd Gwener, 3 Rhagfyr), wrth iddyn nhw deithio i Goedlan y Parc i herio Aberystwyth.

Dydy Cei Conna ddim yn cael tymor mor llwyddiannus eleni, ond byddan nhw’n hapus gyda chanlyniadau diweddar, sydd wedi eu codi nhw i safleoedd y gemau ail-gyfle.

Does dim ond chwe phwynt yn gwahaniaethu’r timau sy’n 4ydd ac 11eg, ac mae wyth gêm i fynd tan fydd y gynghrair yn hollti yn ddwy.

Prynhawn dydd Sadwrn

Ddydd Sadwrn (4 Rhagfyr), bydd y Fflint, sydd yn yr ail safle, yn croesawu Hwlffordd, gan obeithio am berfformiad a chanlyniad hawdd yn erbyn y tîm sy’n arnofio ar ben y safleoedd gollwng.

Mae gêm gyffrous ar waelod y tabl wrth i Met Caerdydd a Derwyddon Cefn fynd benben a cheisio achub eu tymhorau trychinebus nhw.

Hefyd yfory, mae’r Drenewydd, sy’n drydydd, yn croesawu’r Barri, ac mae Caernarfon am geisio dychwelyd i’r safleoedd ail-gyfle, yn erbyn Penybont, sydd wedi cael rhediad cryf yn ddiweddar.

Wrecsam yn seithfed

Yn dilyn y canlyniad siomedig yn erbyn Yeovil yr wythnos diwethaf, dioddefodd Wrecsam eu colled gyntaf mewn saith gêm yn y gynghrair.

Byddan nhw’n gobeithio parhau ar y rhediad maen nhw wedi ei gael yn ystod mis Tachwedd, yn enwedig os ydyn nhw am gael eu traed yn gadarn yn safleoedd gemau ail-gyfle’r Gynghrair Genedlaethol.

Maen nhw wedi codi i’r seithfed safle yn y gynghrair, ond mae Stockport, Solihull Moors a Yeovil o fewn cyrraedd iddyn nhw gyda gêm wrth law yr un.

Dylai’r Dreigiau fod ennill yn gyfforddus brynhawn yfory ar bapur, achos mae Dofr eu gwrthwynebwyr yn bell o fod yn saff ar waelod y gynghrair gyda -8 o bwyntiau.

A bod yn deg, mae’r clwb o dde-ddwyrain Lloegr wedi cael 12 pwynt wedi eu tynnu oddi wrthyn nhw, ond hyd yn oed wedyn, dydyn nhw heb ennill o gwbl eleni.

Wythnos o orffwys

Does dim gêm i Gasnewydd y penwythnos hwn oherwydd y bydd timau o’r gynghrair yn cystadlu yn ail rownd Cwpan yr FA, ac maen nhw wedi eu curo yn y rownd gyntaf.

Mae’r Alltudion wedi cwympo allan o’r safleoedd ail-gyfle yn ddiweddar ar ôl colli un a chael dwy gêm gyfartal, ond does dim ond dau bwynt yn gwahaniaethu dynion James Rowberry a Harrogate, sy’n seithfed.