Mae Russell Martin yn credu bod gan Abertawe’r dewrder i chwarae eu steil o bêl-droed adref neu i oddi cartref.
Daw’r sylwadau wrth i’r Elyrch deithio i Middlesbrough ddydd Sadwrn (4 Rhagfyr), gyda’r gic gyntaf am dri o’r gloch.
Byddan nhw’n gobeithio am well canlyniad na’r penwythnos diwethaf, pan gollon nhw gartref yn erbyn Reading.
Daeth hynny ar ôl rhediad o berfformiadau a chanlyniadau cadarnhaol.
Mae tîm Russell Martin wedi dringo i’r nawfed safle yn y tabl, gyda buddugoliaethau oddi cartref yn erbyn Coventry a Barnsley, yn ogystal â gêm gyfartal yn erbyn Derby.
“Yn erbyn Derby a Barnsley yn benodol, dw i’n credu y gallech chi awgrymu mai ni oedd y tîm cartref,” meddai Russel Martin.
“Roeddwn i wrth fy modd gyda’r perfformiad yn erbyn Barnsley. Fe ddaru ni reoli’r gêm.
“Cymerodd hi sbel i’w torri nhw i lawr ac mae’n rhaid i chi eu parchu, ond roeddwn i’n meddwl ei fod yn berfformiad cryf iawn oddi cartref.
“Dw i’n meddwl bod y chwaraewyr yma’n ddigon dewr nawr i allu chwarae sut rydyn ni eisiau, gartref neu oddi cartref.
“Dyna’r her i ni, i fod y tîm rydyn ni eisiau bod ym mhobman rydyn ni’n mynd.
“Peidio byth â cholli’r ffordd yr ydym am chwarae.
“Bydd y gêm hon yr un fath.”