Mae’r rhan fwyaf o staff a charfan Rygbi Caerdydd wedi dal eu hediad hir-ddisgwyliedig o Dde Affrica.
Bydd y 42 aelod o’r rhanbarth rygbi yn dychwelyd i Brydain heddiw (dydd Gwener, 3 Rhagfyr) ar ôl cyfnod yn ynysu yn Cape Town, wedi i chwe aelod o’r tîm brofi’n bositif am covid ddechrau’r wythnos.
Does dim hawl gan unrhyw un i deithio i’r Deyrnas Unedig yn uniongyrchol o wlad ‘rhestr goch’ fel De Affrica, yn dilyn pryderon am yr amrywiolyn Omicron.
Roedd disgwyl i’r garfan hedfan yn ôl i Ddulyn ddoe (dydd Iau, 2 Rhagfyr), ond fe gafodd yr hediad hwnnw ei ganslo, felly byddan nhw’n teithio i faes awyr Heathrow yn lle.
Ar ôl glanio yn Llundain, bydd holl aelodau’r rhanbarth sydd wedi hedfan yn ynysu am ddeg diwrnod mewn gwesty dynodedig yn Lloegr, gan nad oes gwesty ynysu ar gael yng Nghymru.
Bydd y chwe aelod a brofodd yn bositif – gydag o leiaf un ohonyn nhw yn achos o’r amrywiolyn Omicron – yn parhau i ynysu yn Ne Affrica yn y cyfamser.
And we’re on our way. Thank you to everyone who has played a part in securing our return to the UK and to our friends in South Africa for looking after us. Diolch. pic.twitter.com/gJrcVD6Ozj
— Cardiff Rugby (@Cardiff_Rugby) December 3, 2021
Cwpan y Pencampwyr
Mae’n rhaid i Rygbi Caerdydd baratoi chwaraewyr yr academi ar gyfer y gêm agoriadol yng Nghwpan y Pencampwyr yn erbyn Toulouse ar 11 Rhagfyr, gan y bydd y rhan fwyaf o’u chwaraewyr yn parhau i ynysu.
Ac mi fydd y chwaraewyr sy’n ynysu bron yn sicr yn methu’r ail gêm yn erbyn Harlecwiniaid ar 18 Rhagfyr, oherwydd na fydd eu ffitrwydd nhw yn ddigon da ar ôl peidio hyfforddi am sbel.
Mae ychydig o newyddion da i’r clwb gan fod chwech o’u chwaraewyr rhyngwladol, yn cynnwys Josh Adams, Tomos Williams ac Ellis Jenkins, heb deithio i Dde Affrica er mwyn gorffwys, a byddan nhw i gyd ar gael i chwarae’r gemau Ewropeaidd.
Iechyd meddwl
Roedd gofidion dybryd wedi bod yn ystod yr wythnos am iechyd a lles carfan a staff Rygbi Caerdydd, gyda rhai chwaraewyr yn parhau i ynysu erbyn heddiw (dydd Gwener, 3 Rhagfyr).
Mae’n debyg bod unigolion wedi dioddef pyliau o banig (panic attacks) a bod yno broblemau iechyd meddwl difrifol o fewn y grŵp.
Fe wnaeth un o chwaraewyr Rygbi Caerdydd wneud sylwadau beirniadol am Lywodraeth Cymru a’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig wrth i’r rhanbarth barhau i fod yn gaeth yn Ne Affrica.
Fe ddangosodd y cefnwr Matthew Morgan ei rwystredigaeth mewn post ar Twitter, sydd bellach wedi cael ei ddileu, gan ddweud bod cynghrair y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn ‘llanast’ a chyfeirio at Lywodraeth Cymru fel ‘jôc’, gan ymbil arnyn nhw i gael y clwb yn ôl adref.
Roedd Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant, hefyd yn cefnogi eu hapêl, gan ofyn ar lawr Tŷ’r Cyffredin: ‘tybed a oes mwy y gallwn ni ei wneud i’w helpu i ddod adref?’