Mae yno ofidion am iechyd a lles carfan a staff Rygbi Caerdydd, sydd yn dal i fod yn hunanynysu yn De Affrica.
Wrth droi at Twitter, dywedodd Beth Fisher, gohebydd a chyflwynydd chwaraeon ITV Wales, fod unigolion yn dioddef pyliau o banig (panic attacks) a bod yno broblemau iechyd meddwl difrifol o fewn y grŵp.
Roedd y garfan i fod i ddychwelyd ar Dachwedd 28, ond wnaeth hynny ddim digwydd oherwydd achosion positif o Covid-19, gan gynnwys un achos tybiedig o’r amrywiolyn Omicron.
Byddan nhw’n wynebu deng niwrnod o ynysu pan fyddan nhw’n llwyddo i ddychwelyd o’u gwersyll yn Cape Town, lle roedden nhw’n paratoi i chwarae dau o dimau De Affrica cyn i’r gemau hynny gael eu gohirio.
Mae unigolion â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes sy’n dioddef oherwydd y cwarantin.
Awyren
Mae’n debyg bod Caerdydd wedi sicrhau awyren yn ogystal â gwesty yng Nghaerdydd oedd wedi cytuno i’w cymryd nhw.
Fodd bynnag, dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi cymeradwyo’r cynlluniau hyn.
Yn hytrach, maen nhw wedi rhybuddio Rygbi Caerdydd a’r Scarlets y bydd yno ganlyniadau difrifol os ydyn nhw’n dychwelyd i Gymru.
Yn ôl Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, “does dim gwesty ar gael yng Nghymru”.
Mae Caerdydd bellach yn aros am ganlyniadau profion i allu hedfan yn ôl ddydd Iau (Rhagfyr 2).
Byddai unrhyw ganlyniadau positif yn golygu y bydd yn rhaid i unigolion aros yn Ne Affrica.