Mae dau o chwaraewyr Rygbi Caerdydd wedi profi’n bositif am Covid-19 yn Ne Affrica, ac mae o leiaf un o’r achosion yn ymwneud â’r amrywiolyn newydd Omicron.
Mae’r amrywiolyn eisoes wedi achosi cyfyngiadau teithio rhwng De Affrica a’r Deyrnas Unedig.
Cafodd yr achosion positif eu cyhoeddi gan Rygbi Caerdydd ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad ydyn nhw wedi gallu dychwelyd adref, tra bod y Scarlets eisoes ar awyren yn ôl i Gymru.
Cafodd gemau’r ddau dîm yn y wlad eu canslo oherwydd sefyllfa’r feirws, ond o ganlyniad i’r achosion positif yng ngharfan Rygbi Caerdydd, bydd yn rhaid i’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr hunanynysu am gyfnod o ddeng niwrnod.
Roedd disgwyl i Rygbi Caerdydd a’r Scarlets dreulio dau benwythnos yn Ne Affrica yn chwarae yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, ond mae’r holl gemau wedi’u gohirio am y tro.
Roedd Rygbi Caerdydd i fod i ddychwelyd adref heddiw (dydd Sul, Tachwedd 28) ond dydy hi ddim yn glir erbyn hyn pryd fydd modd iddyn nhw hedfan yn ôl.
Mae rhannau helaeth o gyfandir Affrica ar restr deithio goch y Deyrnas Unedig, sy’n golygu bod rhaid i unrhyw un sy’n teithio yno fynd i gwarantîn ar ôl dod adref.