Colli 3-2 gartref i Reading a wnaeth yr Elyrch y pnawn yma wrth i ddau o gyn-chwaraewyr Lloegr – Andy Carroll a Danny Drinkwater – sgorio goliau yn eu herbyn.

Er i Jamie Paterson roi Abertawe ar y blaen o fewn y tri munud cyntaf roedd Tom Dele-Bashiru wedi unioni’r sgôr lai na munud wedyn. Rhoddodd Andy Carroll Reading ar y blaen wedyn mewn gôl hanner awr i mewn i’r gêm.

Llwyddodd Ryan Manning i unioni’r sgôr dros Abertawe bedwar munud i mewn i’r ail hanner, ond fe wnaeth gôl gyntaf Danny Drinkwater ers mis Rhagfyr 2017 sicrhau buddugoliaeth i Reading.