Mae Caerdydd wedi llwyddo i sicrhau tair buddugoliaeth mewn pedair gêm o dan Steve Morison wrth guro Luton 2-1.

Aeth yr Adar Glas ar y blaen ar ôl 10 munud wrth i Rubin Colwill benio croesiad gan Perry Ng. Er bod golwr Luton yn ymddangos ei fod wedi’i harbed, barnodd y dyfarnwr Oliver Langford ei bod wedi croesi’r llinell.

Ni wnaeth Luton fawr o gyfleoedd iddyn nhw’u hunain yn yr hanner cyntaf, ac roedd Caerdydd yn dal i ymosod. Dylai amddiffynnwr Caerdydd, Mark McGuinness fod wedi dyblu mantais yr ymwelwyr ar gychwyn yr ail hanner, ond aeth ei beniad dros y bar.

Llwyddodd Luton i unioni’r sgôr yn y 64ydd munud, pan giciodd Jordan Clark y bêl o’r ochr i gornel y rhwyd yn ei gôl cyntaf o’r tymor.

Ar ôl sawl ymgais aflwyddiannus, aeth Caerdydd yn ôl ar y blaen ar ôl 77 munud wrth i groesiad Ryan Giles alluogi Morrison i benio’r bêl i mewn ger y postyn pellaf. Daliodd y ddau dîm ati i’r diwedd, ond ni lwyddodd y naill na’r llall i sgorio gôl arall.