Mae gan Wrecsam bellach rediad o chwe gêm ddiguro’r tu ôl iddyn nhw yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl buddugoliaeth 2-0 yn Bromley y pnawn yma.

Roedd Bromley eisoes i lawr i 10 dyn wrth i Liam Trotter gael ei anfon o’r cae yn yr wythfed munud cyn i goliau gan Reece Hall-Johnson a Paul Mullin eu chwalu.

Sgoriodd Hall-Johnson hanner awr i mewn i’r gêm, a llwyddodd Mullin i ddyblu’r fantais ychydig cyn yr awr. Fe fu bron i Bryce Hosannah gael trydedd gôl i Wrecsam 10 munud yn ddiweddarach, ond fe wnaeth ei ergyd daro’r postyn.