Gêm gyfartal 1-1 a gafodd Casnewydd yn Colchester neithiwr (nos Wener 26 Tachwedd) ar ôl i gôl hwyr gan y tîm cartref eu hamddifadu o fuddugoliaeth.

Roedd yr Alltudion wedi mynd ar y blaen gydag ergyd wych i’r rhwyd gan Dom Telford yn yr hanner cyntaf, wrth iddo sgorio ei bedwerydd gôl ar ddeg y tymor hwn. Bu’n agos at ddyblu eu mantais ar ôl yr egwyl hefyd pan wnaeth daro’r postyn gydag ergyd gofiadwy arall o 20 llath.

Ddeng munud cyn y diwedd fodd bynnag, llwyddodd Freddie Sears i ergydio’r bêl i gôl agored Casnewydd gan unioni’r sgôr.