Trip oddi cartref i Luton sydd gan Gaerdydd brynhawn dydd Sadwrn (27 Tachwedd) wrth iddyn nhw geisio creu momentwm yn y Bencampwriaeth.

Dyma fydd pedwaredd gêm Steve Morison wrth lyw’r Adar Gleision, ac mae wedi llwyddo i gael chwe phwynt o naw posib ar ddechrau ei hynt fel rheolwr dros dro.

Fe gafodd o fuddugoliaeth hwyr yn erbyn Huddersfield yn ei gêm gyntaf, cyn trechu Preston oddi cartref yn ddiweddarach.

Ond doedd dim lwc ar drydydd cynnig y Cymro, wedi iddyn nhw golli o un i ddim mewn gêm ddiflas yn erbyn Hull yng nghanol yr wythnos hon.

Mae eu gwrthwynebwyr Luton Town yn cael eu rheoli gan gyn-chwaraewr tîm ieuenctid Caerdydd, Nathan Jones, ac maen nhw wedi gadael eu marc yn eu trydydd tymor yn y Bencampwriaeth.

Yn gwthio am safle ail-gyfle, mae’r tîm o Swydd Bedford yn 12fed yn y gynghrair gyda 25 o bwyntiau, ond maen nhw wedi cael rhediad gweddol sâl yn ddiweddar gan gasglu dim ond pedwar o bwyntiau yn y pum gêm ddiwethaf.

Bydd cic gyntaf y gêm ar Ffordd Kenilworth bnawn Sadwrn am dri, gyda sylwebaeth ar gael ar raglen Chwaraeon Radio Cymru.

‘Rydyn ni am ddominyddu gemau’

Dywed Steve Morison ei fod o a’i dîm yn “rhwystredig, anniddig a siomedig” eu bod nhw wedi colli yn erbyn Hull wrth ystyried bod eu carfan nhw bron yn gyflawn.

Mae’r rheolwr dros dro yn sôn am sut maen nhw wedi amrywio eu ffordd o chwarae dros yr wythnos diwethaf i geisio cael canlyniadau gwell.

“Roedden ni eisiau newid yr arddull, roedden ni eisiau cael dull mwy blaengar yn hytrach na bod yn rhy hectig neu ffrantig – rydyn ni eisiau bod mewn llawer mwy o reolaeth,” meddai.

“Rydyn ni am ddominyddu gemau pêl-droed a chael mwy o feddiant na’r tîm arall.

“Mae gennyn ni chwaraewyr pêl-droed da iawn, ac rydyn ni’n gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth dydyn nhw heb ei wneud ers sbel.

“Rydyn ni wedi cael gêm ddydd Sadwrn, dydd Mercher ac yna dydd Sadwrn eto, felly ar ôl gêm Luton fydd y tro cyntaf y bydda i’n cael wythnos lawn o ymarfer.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael yr amser i hyfforddi gyda’r grŵp cyfan.”

Newyddion tîm

I Gaerdydd, mae Sam Bowen ac Isaac Vassell yn parhau i ddioddef ag anafiadau, felly byddan nhw ddim yn rhan o’r garfan sy’n teithio dros y ffin.

Isaak Davies. Llun oddi ar wefan Caerdydd

Bydd y ddau Gymro, Mark Harris a Rubin Colwill, yn gobeithio ymuno â’r cawr Kieffer Moore yn llinell flaen yr Adar Gleision, ar ôl dod oddi ar y fainc yn erbyn Hull yng nghanol yr wythnos.

Mae gan y tîm cartref ychydig o wynebau ifanc eraill sydd wedi cael cyfle gyda’r tîm cyntaf ers dechrau’r tymor, gan gynnwys Isaak Davies a Chanka Zimba.

Mae golwr Luton a Croatia, Simon Sluga, yn debygol o golli’r gêm oherwydd iddo ddod i gysylltiad agos â rhywun gafodd ganlyniad prawf Covid-19 positif.

Hefyd, bydd Reece Burke a Luke Berry fwy na thebyg yn absennol i’r gwrthwynebwyr, ac mae cyn-ymosodwr Caerdydd, Cameron Jerome, yn un sy’n gobeithio cael lle yn yr 11 cyntaf.