Bydd Cymru’n croesawu Awstria yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd.

Gêm ragbrofol yng Nghwpan y Byd ym mis Medi 2017 oedd y tro diwethaf i Gymru herio Awstria, pan sgoriodd Ben Woodburn yr unig gôl ar ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad.

Mae Awstria yn y gemau ail gyfle gan iddyn nhw ennill eu grŵp Cynghrair y Cenhedloedd oedd yn cynnwys Norwy, Romania a Gogledd Iwerddon.

Gorffennodd tîm Franco Foda yn bedwerydd yn eu grŵp rhagbrofol Cwpan y Byd, y tu ôl i Ddenmarc, yr Alban ac Israel.

Cawson nhw gweir gan Ddenmarc ac Israel, yn ogystal â cholli gartref y erbyn yr Alban mis Medi.

Rownd derfynol

Os ydyn nhw’n fuddugol ddydd Iau, 24 Mawrth 2022, bydd Cymru’n herio’r Alban neu’r Wcráin yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ddydd Mawrth, 29 Mawrth.

Enillwyr gêm Cymru ac Awstria fydd yn chwarae gartref yn y rownd derfynol.

Bydd enillydd y rownd derfynol honno yn gymwys ar gyfer Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Dim ond gemau un cymal sy’n cael eu chwarae yn y rownd gynderfynol a’r rownd derfynol.

“Cyfle gwych”

Dywedodd rheolwr Cymru, Robert Page: “Rydym wedi rhoi cyfle gwych i ni’n hunain.

“Rydym ni wedi gweithio mor galed i orffen yn ail a chael y gêm gartref yna.

“Mae gennym bopeth i chwarae amdano.”