Mae Syr Frank Williams, pennaeth tîm Williams y byd rasio ceir Formula One, wedi marw’n 79 oed.

Enillodd tîm Williams deitl y gyrwyr saith gwaith a theitl y gwneuthurwyr naw gwaith o dan ei arweiniad.

Yn ôl datganiad gan y tîm, fe fu farw fore heddiw (dydd Sul, Tachwedd 28) ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty ddydd Gwener (Tachwedd 26).

Dywed y tîm ei fod e’n “arweinydd ysbrydoledig” ac y bydd “colled fawr ar ei ôl”.

Teyrngedau

Mae teryngedu wedi’u rhoi iddo yn dilyn ei farwolaeth.

Dywedodd George Russell, un o yrwyr tîm Williams, fod Syr Frank Williams “yn diffinio’r tîm” a’i fod e’n “fod dynol hyfryd”.

“Roedd e’n fwy na bos, roedd e’n fentor ac yn ffrind i bawb wnaeth ymuno â theulu rasio Williams a chynifer o bobol eraill”.

Dywedodd Stefano Domenicali, prif weithredwr y Formula One Group a chyn-bennaeth tîm Ferrari, ei fod e’n “gawr gwirioneddol” yn y gamp.

Gyrfa

Enillodd tîm Williams eu ras F1 gyntaf yn Grand Prix Prydain yn Silverstone yn 1979, wrth i Clay Regazzoni gipio’r fuddugoliaeth.

Flwyddyn yn ddiweddarach, cipiodd y tîm deitlau’r gyrwyr a’r gwneuthurwyr am y tro cyntaf gydag Alan Williams o Awstralia wrth y llyw yn brif yrrwr.

Yn 1994, cafwyd Syr Frank Williams yn euog o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth y gyrrwr Ayrton Senna yn Imola, ond cafwyd e’n ddieuog rai blynyddoedd wedyn.

Cafodd y tîm ei werthu y llynedd, ac fe gamodd Syr Frank Williams o’r neilltu bryd hynny, a gadawodd ei ferch Claire ei swydd yn ddirprwy bennaeth y tîm yn ddiweddarach.