Mae Cymru bellach yn gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr nesaf ond mae pedwar mis tan hynny felly digon o gyfle i’r chwaraewyr wneud argraff gyda’u clybiau, gan ddechrau’r penwythnos hwn.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Gyda Lerpwl wedi sicrhau eu lle yn rownd nesaf Cynghrair y Pencampwyr gyda dwy gêm yn weddill, roedd cyfle i Neco Williams yn erbyn Porto ganol wythnos. Dechreuodd y Cymro a chwarae’r naw deg munud yn y fuddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn Anfield. Yn ôl ar y fainc yr oedd y cefnwr serch hynny ar gyfer y fuddugoliaeth o bedair i ddim dros Southampton yn y gynghrair ddydd Sadwrn.

Neco Williams

Dechreuodd Dan James gêm gyfartal ddi sgôr Leeds yn Brighton nos Sadwrn a daeth Tyler Roberts oddi ar y fainc am yr ugain munud olaf. Yn wir, Roberts a ddaeth agosaf at ei hennill hi i’r ymwelwyr gyda dwy ymdrech hwyr yn cael eu harbed yn dda gan Robert Sanchez yn y gôl.

Gwylio o’r fainc a wnaeth Danny Ward wrth i Gaerlŷr drechu Watford o bedair gôl i ddwy ddydd Sul ac nid oedd gêm i Connor Roberts, Wayne Hennessey, Joe Rodon a Ben Davies gan i’r gêm rhwng Burnley a Tottenhem gael ei gohirio oherwydd y tywydd. Fe wnaeth Rodon a Davies chwarae ganol wythnos serch hynny, yng ngholled Spurs yn erbyn NS Mura yng Nghyngres Europa, Rodon yn dechrau a Davies yn dod oddi ar y fainc.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Parhau a wnaeth adfywiad diweddar Caerdydd gyda buddugoliaeth dda o ddwy gôl i un yn Luton ddydd Sadwrn. Rubin Colwill a roddodd yr Adar Gleision ar ben ffordd gyda pheniad cynnar ac fe ddechreuodd Kieffer Moore y gêm hefyd. Daeth Mark Harris ac Isaak Davies oddi ar y fainc ond aros arni a wnaeth Will Vaulks. Prynhawn i’w anghofio i Tom Lockyer yn amddiffyn Luton yn erbyn ei glwb cyntaf.

Rubin Colwill

Colli a fu hanes Abertawe, o dair gôl i ddwy gartref yn erbyn Reading gyda Jamie Paterson yn sgorio’r gyntaf o ddwy gôl yr Elyrch. Nid oedd Ben Cabango yn y garfan ond fe wnaeth hynny olygu lle ar y fainc i’w gyd wladwr, Brandon Cooper. Ymunodd Liam Cullen ag ef arni ac fe gafodd ef ddeg munud hwyr i geisio achub pwynt i’w dîm ond nid felly y bu.

Roedd gêm gyfartal gôl yr un yn Preston yn ddigon i gadw Fulham ar frig y tabl. Chwaraeodd Harry Wilson y naw deg munud i’r ymwelwyr a daeth Ched Evans oddi ar y fainc i sgorio gôl y tîm cartref, ei ail mewn dwy gêm ers dychwelyd i’r tîm wedi anaf. Chwaraeodd Andrew Hughes o’r dechrau i Preston hefyd.

Bournemouth sydd yn ail yn dilyn gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Coventry gyda Chris Mepham yn chwarae’r gêm gyfan i’r Cherries.

Mae tymor Jordan James yn mynd o nerth i nerth, dechreuodd y bachgen dwy ar bymtheg oed i Firmingham yn erbyn Blackpool a chreu unig gôl y gêm i Lukas Jutkiewicz yn y deg munud olaf. Mae Chris Maxwell yn parhau i fod allan o garfan Blackpool oherwydd anaf.

Nid oedd gôl Tom Bradshaw yn ddigon i Millwall wrth iddynt golli o ddwy gôl i un yn Hull. Nid oedd Matthew Smith yng ngharfan y Teigrod.

Dechreuodd tri Chymro golled Stoke o gôl i ddim yn erbyn Blackpool, Adam Davies yn y gôl a James Chester a Morgan Fox yn yr amddiffyn. Roedd Joe Allen wedi ei wahardd ar ôl derbyn cerdyn coch yn eiliadau olaf y gêm ganol wythnos yn erbyn Bristol City.

Roedd llechen lân brin i Dave Cornell wrth i Peterborough gael gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Barnsley.

Chwaraeodd Sorba Thomas wrth i Huddersfield golli o ddwy gôl i un yn erbyn Middlesbrough ond parhau i aros am ei ymddangosiad cyntaf dros ei glwb newydd y mae cefnwr chwith Boro, Neil Taylor.

Di sgôr a oedd hi yn y gêm rhwng West Brom a Nottingham Forest nos Wener gyda Brennan Johnson yn chwarae naw deg munud arall i Forest.

 

*

 

Cynghreiriau is

Disgynnodd Plymouth o frig yr Adran Gyntaf ar ôl colli o ddwy gôl i un yn erbyn Wigan. Dechreuodd James Wilson a Luke Jephcott y gêm i Argyle ond cafodd Jephcott ei eilyddio cyn hanner amser heb greu llawer o argraff. Roedd chwarter awr oddi ar y fainc i Ryan Broom i Plymouth ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Gwion Edwards i Wigan, sydd yn codi dros eu gwrthwynebwyr yn y tabl.

Tîm arall sydd yn brwydro tua brig y tabl yw Wycombe. Cawsant hwy gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Sheffield Wednesday yn Hillsborough gyda Sam Vokes yn dechrau’r gêm ond Joe Jacobson ac Adam Przybek yn gorfod bodloni ar le ar y fainc.

Cododd Sunderland i’r safleoedd ail gyfle gyda buddugoliaeth yng Nghaergrawnt, diolch i gôl fuddugol Nathan Broadhead toc cyn yr egwyl, dwy i un y sgôr terfynol.

Nathan Broadhead

Dechreuodd tri Chymro fuddugoliaeth Portsmouth o gôl i ddim yn Gillingham, Kieran Freeman yn yr amddiffyn a Joe Morrell a Louis Thompson yn ffurfio partneriaeth Gymreig yng nghanol y cae. Daeth Ellis Harrison oddi ar y fainc i orffen y gêm i Pompey hefyd.

Dim ond un o Gymry Bolton a oedd yn bresennol ar gyfer eu gêm hwy yn erbyn Cheltenham. Gyda Gethin Jones, Jordan Williams, Josh Sheehan a Lloyd Isgrove i gyd allan o’r garfan gydag anafiadau, Declan John a oedd yr unig un i chwarae ond creodd y cefnwr chwith argraff gan greu ail gôl ei dîm mewn gêm gyfartal ddwy gôl yr un. Chwaraeodd Chris Norton funudau olaf y gêm i’r gwrthwynebwyr. Mae disgwyl i Jones, Williams ac Isgrove fod yn ffit dros yr wythnosau nesaf on mae’n debyg fod tymor Sheehan ar ben oherwydd difrifoldeb ei anaf ef.

Chwaraeodd Regan Poole y naw deg munud wrth i Lincoln golli yn erbyn Accrington ond nid oedd Adam Matthews na Chris Gunter yn nhîm Charlton a gollodd yn yr Amwythig, Gunter ar y fainc a Matthews ddim yn y garfan.

Ipswich a aeth â hi o ddwy gôl i un yn erbyn Crewe yn y gêm ddydd Sul. Chwaraeodd Dave Richards, Billy Sass-Davies, Zac Williams a Tom Lowery y gêm gyfan i Crewe a daeth Lee Evans oddi ar y fainc i chwarae’r hanner awr olaf i Ipswich. Nid oedd Wes Burns yn y garfan.

Yn yr Ail Adran, dychwelodd Tom King i dîm Salford wedi cyfnod allan gydag anaf gan gadw llechen lân yn ei gêm gyntaf yn ôl, buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim mewn gêm ddarbi yn erbyn Oldham. Chwaraeodd Liam Shephard hefyd.

Gêm gyfartal gôl yr un a gafodd Swindon gartref yn erbyn Harrogate gyda Jonny Williams yn chwarae’r gêm gyfan.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Roedd hi’n brynhawn distaw i’r Cymry yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn. Ar y fainc yr oedd Ben Woodburn i Hearts ac nid oedd Christian Doidge a Dylan Levitt yng ngharfannau Hibs a Dundee United.

Ross County a oedd gwrthwynebwyr Dundee United mewn gêm gyfartal gôl yr un ac fe gafodd Alex Samuel ddeunaw munud oddi ar y fainc i’r Staggies.

Dechreuodd Ryan Hedges a Marley Watkins yn y llinell flaen i Aberdeen ddydd Sul ond colli o ddwy gôl i un a fu eu hanes yn erbyn Celtic.

Trydedd rownd Cwpan yr Alban a oedd hi i bawb o dan yr Uwch Gynghrair ond mae Dunfermline Owain Fôn Williams allan yn syth ar ôl colli o gôl i ddim yn erbyn Partick Thistle.

Yn yr Eidal, parhau i wylltio cefnogwyr Juventus ar y cyfryngau cymdeithasol trwy fod wedi ei anafu y mae Aaron Ramsey ond dechreuodd Ethan Ampadu i Venezia nos Sadwrn wrth iddynt golli o ddwy gôl i ddim yn erbyn Inter.

Rabbi Matondo a sgoriodd drydedd gôl Cercle Brugge wrth iddynt drechu Mechelen ddydd Sadwrn, gôl gyntaf y Cymro yn y Belgian Pro League. Roedd hi’n ddiwrnod da i’r teulu wrth i’w frawd, Japhet Matondo Mpadi sgorio ddwywaith i dîm dan 18 Caerdydd mewn buddugoliaeth o dair i ddim yn erbyn Abertawe. Joel Colwill , brawd Rubin, a gafodd y llall.

Rabbi Matondo

Mae St. Pauli yn aros ar frig  y 2. Bundesliga ar ôl curo Nurnberg o dair gôl i ddwy ddydd Sul, gyda James Lawrence yn chwarae’r gêm gyfan yng nghanol yr amddiffyn.

Parhau i fod wedi ei anafu y mae Gareth Bale wrth i’r ffrae ddiweddaraf rhwng ei asiant, Jonathan Barnett, a chefnogwyr Los Blancos ddatblygu dros y dyddiau diwethaf.