Roedd siom i Jonny Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, ym Mhencampwriaeth y Chwaraewyr Dartiau ym Minehead, wrth iddo fe golli yn y rownd gyn-derfynol.

Collodd e o 11-6 yn erbyn yr Albanwr Peter Wright, a aeth yn ei flaen i gipio’r tlws ar ddiwedd y noson.

Fe allai’r sgôr fod wedi bod yn waeth i Clayton, oedd wedi bod ar ei hôl hi o 10-3 ar un adeg wrth i Wright geisio cipio’r cymal olaf i ennill yr ornest.

Enillodd Wright y rownd derfynol yn erbyn Ryan Searle o 11-10, a hynny ar ôl curo’r Iseldirwr Michael van Gerwen, y pencampwr blaenorol, yn rownd yr wyth olaf.

Roedd Searle wedi curo Brendan Dolan yn rownd yr wyth olaf, a hwnnw eisoes wedi curo’r Cymro arall Gerwyn Price yn y drydedd rownd. Bydd y canlyniad yn gweld Searle yn codi i fod ymhlith 16 prif ddetholyn y byd.

Wrth i Wright guro Michael van Gerwen, mae’r Iseldirwr wedi gorffen blwyddyn galendr heb ennill un o’r prif dlysau am y tro cyntaf ers degawd.

Yn gynharach yn y gystadleuaeth, roedd Clayton wedi ennill naw gêm yn olynol wrth guro Iseldirwr arall, Vincent van der Voort, o 10-3.