Mae Gerwyn Price, pencampwr byd dartiau’r PDC, wedi dweud wrth golwg360 y bydd e’n “hapus gyda phwy bynnag sy’n dod allan o’r het” ar gyfer Pencampwriaeth y Byd.
Bydd y chwaraewr o sir Caerffili’n darganfod heno (nos Lun, Tachwedd 29) pwy fydd ei wrthwynebydd cyntaf yn yr Alexandra Palace yn Llundain.
Bydd y gystadleuaeth yn dechrau ar Ragfyr 15, a Price yw’r prif ddetholyn a’r ffefryn i ennill y twrnament.
Daw prif gystadleuaeth byd dartiau’r PDC ar ôl Pencampwriaeth y Chwaraewyr ddigon siomedig i Price, wrth iddo golli yn y drydedd rownd yn erbyn Brendan Dolan ym Minehead neithiwr (nos Sul, Tachwedd 29).
Ond cafodd e gryn dipyn o lwyddiant yr wythnos ddiwethaf, serch hynny, wrth ennill y Gamp Lawn am y trydydd tro mewn pedair blynedd.
“Roedd hi’n anodd chwarae yno,” meddai wrth siarad â golwg360 dros Zoom.
“Ro’n i i fyny ac i lawr o ran fy mherfformiad, ac roedd hi’n un o’r cystadlaethau hynny dw i’n gorfod eu rhoi y tu ôl i fi nawr ac edrych ymlaen at Bencampwriaeth y Byd, mewn gwirionedd.
“Wnes i chwarae’n dda iawn yn niwedd y Gamp Lawn, oedd yn dda i fi o ran rhoi hyder i fi.
“Ond o ran Minehead, mae’n fater o’i pharcio hi lle mae hi, gadael iddi fynd ac edrych ymlaen at Bencampwriaeth y Byd.”
Y Gamp Lawn a pharatoi at yr Alexandra Palace
Daeth ei fuddugoliaeth ddiweddaraf yn y Gamp Lawn y penwythnos diwethaf wrth iddo fe guro’r Albanwr Peter Wright o 16-8.
Dyma’r chweched tro iddo fe ennill un o’r prif gystadlaethau, a’i 23ain teitl PDC, ac mae’n golygu ei fod e’n sicr o’i le yn brif ddetholyn ar gyfer Pencampwriaeth y Byd 2022.
Sgoriodd Price wyth sgôr o 180 yn y rownd derfynol, gan orffen yr ornest gyda chyfartaledd tri dart o 103.9 gan lwyddo gyda 47% o’i ymdrechion at sgôr i ennill gemau.
Roedd Wright wedi ennill ei bum gêm derfynol ddiwethaf o flaen y camerâu teledu – y tro blaenorol iddo golli oedd rownd derfynol yr un gystadlaeuth yn erbyn Price ddwy flynedd yn ôl.
Fe wnaeth Price guro Jonny Clayton yn rownd yr wyth olaf, cyn trechu James Wade o 16-9 yn y rownd gyn-derfynol.
Hon oedd wythfed rownd derfynol Price y tymor hwn – dim ond Clayton sydd wedi rhagori ar hynny eleni, gyda naw.
Amddiffyn teitl y byd
Mae’n dweud bod ennill y gystadleuaeth honno wedi bod yn hwb wrth baratoi ar gyfer Pencampwriaeth y Byd, lle bydd e’n ceisio amddiffyn ei deitl.
“Dw i heb chwarae ryw lawer eleni o ran y pedwar twrnament a’r [Bencampwriaeth] Ewropeaidd, a dyna’r rhai sy’n eich gwneud chi’n siarp,” meddai.
“Felly ro’n i’n mynd i mewn i gystadlaethau ar y teledu heb fawr ddim hyder o gwbl.
“Roedd ennill y Gamp Lawn a chwarae fel wnes i o rownd yr wyth olaf ymlaen yn fy llenwi â hyder am weddill y flwyddyn.
“Ro’n i’n hyderus yn mynd i Minehead ond wnaeth e fyth wir ddigwydd yno, ond dw i’n edrych ymlaen nawr at Bencampwriaeth y Byd, at gael nifer o oriau ar y bwrdd yn arwain i fyny ati a cheisio’i mwynhau hefyd.
“Dw i ddim yn poeni pwy sy’n dod allan o’r het, mae’r rownd gyntaf bob amser yn un anodd ond dwi am ganolbwyntio ar fy ngêm fy hun ac ymarfer fel y dylwn i, treulio ychydig oriau ar y bwrdd a sicrhau fy mod i’n barod.
“Beth bynnag sy’n dod ataf fi, fe fydda i’n barod amdano fe.
“Ond dros yr wythnos nesaf, dw i’n mynd ymlacio, rhoi’r dartiau i lawr ac yn yr wythnos cyn Pencampwriaeth y Byd, fe wna i ffonio hen ffrind, Barry Bates, i ddod i gael sesiynau ymarfer dair neu bedair gwaith yr wythnos.
“Dw i ddim yn hoffi treulio oriau ac oriau ar y bwrdd, dw i’n credu bod hynny’n gallu effeithio arnoch chi’n fwy na’ch helpu chi, felly mae’n debyg y gwna i ddwy neu dair awr y dydd, dri diwrnod yr wythnos a pharatoi gorau galla’ i ar gyfer y fformat dan sylw.”
- Bydd Pencampwriaeth Dartiau’r Byd, wedi’i noddi gan William Hill, yn fyw ar Sky Sports o Ragfyr 15 i Ionawr 3.