Mae dyn 25 oed wedi’i gadw yn y ddalfa wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes 65 oed yn Llanilltud Faerdref.

Aeth Luke Deeley gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Llun, Tachwedd 29), gan ofyn am gyfieithydd Cymraeg ar gyfer yr achos.

Cafwyd hyd i gorff June Fox-Roberts yn ei chartref.

Siaradodd Deeley trwy gyswllt fideo o ystafell arall yn y llys i gadarnhau ei fanylion personol.

Mae ymchwilwyr yn dal i gasglu tystiolaeth o safle’r digwyddiad, a chafodd yr achos ei ohirio tan Ionawr 14, a bydd y diffynnydd yn sefyll ei brawf o Fai 9.

Mae e wedi’i gadw yn y ddalfa yn y cyfamser.