Mae “bylchau yn y ddarpariaeth” mewn rhai gwasanaethau a chymorth ychwanegol i blant ag anableddau a’u teuluoedd yng Nghymru, medd adroddiad newydd.
Yn ôl yr adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, mae safon ceisio, clywed a chofnodi lleisiau a dewisiadau plant ag anableddau yn amrywio dros Gymru.
Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu anghenion gofalwyr ond yn ôl y data, dydi 66% o rieni neu ofalwyr plant ag anableddau heb dderbyn yr asesiad hwn.
Nod ‘Gadewch imi ffynnu’ oedd edrych ar ba mor dda mae awdurdodau lleol, wrth weithio gyda’u partneriaid, yn darparu cymorth, gofal a chefnogaeth gynnar i blant ag anableddau.
Casgliadau
Wrth ystyried llesiant plant, gwelodd Arolygiaeth Gofal Cymru ddiffyg darpariaeth ddigonol o wasanaethau i hyrwyddo lles plant ag anableddau, a dywedodd llawer o rieni a gofalwyr y bydden nhw, a’u plant, wedi elwa o wasanaethau a chymorth ychwanegol.
Fe wnaeth y pandemig, a’i effaith, effeithio ymhellach ar restrau aros a mynediad at rai gwasanaethau, meddai’r adroddiad.
Er bod rhai enghreifftiau da o staff yn gwneud ymdrechion i ddatblygu perthnasau proffesiynol â phlant ag anableddau a’u teuluoedd, mae’r sefyllfa’n amrywio dros Gymru.
Doedd pob ymarferydd ddim wedi derbyn hyfforddiant penodol ar gyfer anghenion cyfathrebu’r plant unigol roedden nhw’n gweithio â nhw, meddai’r adroddiad.
Gwelodd yr Arolygiaeth fod awdurdodau lleol a’u partneriaid yn cydnabod diogelu plant ag anableddau fel blaenoriaeth, a bod tystiolaeth o gydweithio da er mwyn gwneud hynny.
‘Pwysicach nag erioed’
Dywed Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, nad yw hi “erioed wedi bod yn bwysicach i leisiant plant anabl yng Nghymru fod yn ganolbwynt ein sylw”.
“Gwnaethom ymrwymo i gwblhau’r adolygiad hwn yn ystod cyfnod heriol gan ein bod yn ymwybodol bod y pandemig yn cael effaith ar gymorth i blant anabl,” meddai Gillian Baranski.
“Mae hyrwyddo llesiant plant anabl yn dibynnu ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn cydweithio’n effeithiol.
“Mae’r adolygiad a’i ganfyddiadau yn rhoi meincnod i Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fonitro’r cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, ac ysgogi gwelliant i blant anabl a’u teuluoedd.
“Rwy’n falch o weld bod diogelu’n parhau i fod yn flaenoriaeth i awdurdodau lleol a’u partneriaid.
“Mae’n hanfodol, yn fwy nawr nag erioed, bod yr holl bartneriaid yn cymryd dull sy’n seiliedig ar hawliau wrth gefnogi plant a’u teuluoedd.
“Mae hwn yn cynnwys sicrhau bod eu barn yn cael ei hadlewyrchu ym mhob rhan o gynllunio a darparu gwasanaethau.
“Hoffwn dalu’r deyrnged i’r ymrwymiad rhagorol a ddangosir gan ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant ond mae’n rhaid inni sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi’n dda a bod ganddynt yr amser a’r cyfleoedd i sicrhau ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.”
‘Meysydd i’w gwella’
“Yr wyf yn falch bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi gallu cynorthwyo yn yr adolygiad hwn,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr dros dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
“Roedd cydweithio ag Arolygiaeth Gofal Cymru yn ein galluogi i nodi arferion cadarnhaol, pwyntiau dysgu a meysydd i’w gwella a fydd yn cefnogi byrddau iechyd, ac awdurdodau lleol, i ganolbwyntio eu sylw ar wneud y newidiadau sydd eu hangen i gefnogi plant anabl a’u teuluoedd.”