Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan yn galw am orfod gwisgo mygydau mewn tafarnau.
Yn ôl Angela Rayner, dydy Covid-19 “ddim yn gwahaniaethu” rhwng lleoliadau dan do – boed hynny’n eistedd mewn tafarnau, ar drenau neu yn yr ysbyty.
Mae hi’n galw am gyflwyno gorfodaeth i wisgo mygydau ym mhob lleoliad lletygarwch, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn siopau hefyd.
“Fe ges i’r trên yma neithiwr ac roedd e dan ei sang, allech chi ddim hyd yn oed sefyll, roedd e mor llawn, a doedd neb, ychydig iawn o bobol, yn gwisgo mwgwd ar y trên,” meddai wrth Sky News.
“Mae hi mor bwysig fod pobol yn gwisgo mygydau dan do, mewn canolfannau lle maen nhw’n cyfarfod â phobol ac yn… cymysgu mewn niferoedd mawr.
“Dylai pobol fod yn gwisgo’u mygydau.”
Ac mae hi’n dweud y dylid gwisgo mygydau “yn enwedig os ydych chi’n symud o amgylch y dafarn” ac y “dylai pobol fod yn gwisgo’u mygydau mewn lleoliadau lletygarwch”.
“Os ydych chi mewn lleoliad dan do, does dim gwahaniaethu rhwng tafarn, eistedd mewn tafarn, neu eistedd ar drên neu eistedd yn yr ysbyty,” meddai.
“Mae’n dal i fod yn lleoliad sydd dan do, a dylen ni fod yn cymryd y camau angenrheidiol i warchod pobol o’n cwmpas.”