Mae prisiau tai yng Nghymru wedi cynyddu mwy mewn blwyddyn na phrisiau yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

Dros y deuddeg mis diwethaf, mae prisiau cyfartalog yng Nghymru wedi cynyddu 10.8%.

Mae disgwyl mai 2021 fydd y flwyddyn brysuraf ym marchnad dai’r Deyrnas Unedig ers 2007, gydag un ym mhob 16 tŷ yn newid dwylo.

Dywed Zoopla fod eu Mynegai Prisiau Tai yn dangos bod galw’n uchel o ganlyniad i’r pandemig, a phrisiau tai cyfartalog dros y Deyrnas Unedig wedi codi o £200,000 bum mlynedd yn ôl i £240,000 eleni.

Dros y deuddeg mis diwethaf, mae prisiau tai dros y Deyrnas Unedig wedi codi £15,000 gyda chynnydd blynyddol o 6.9% rhwng mis Hydref y llynedd a mis Hydref eleni.

Mae’r ystadegau chwarterol yn dangos bod y twf yn dechrau arafu, wrth i brisiau gynyddu 1.2% rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref o gymharu â 2.8% yn y chwarter blaenorol.

O gymharu â’r cyfartaledd dros bum mlynedd, mae 40% yn llai o dai newydd ar werth, 50% yn llai o dai ar werth, a 15% yn llai o fflatiau.

Mae’r galw ymysg prynwyr 28% yn uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd, meddai Zoopla.

‘Galw’n parhau’n gryf’

“Bydd maint y cyflenwad yn dechrau cynyddu tua throad y flwyddyn wrth i aelwydydd ddefnyddio cyfnod y Nadolig i wneud penderfyniadau ynghylch symud,” meddai Grainne Gilmore, pennaeth ymchwil gyda Zoopla.

“Mewn blynyddoedd arferol, mae’r cyflenwad tymhorol uchel o dai sy’n cael eu rhoi ar werth yn arafu cyn y Nadolig, ond yna’n codi’n sydyn yn y flwyddyn newydd.

“Ar gyfartaledd, mae nifer y tai sy’n cael eu rhestru ddiwedd Ionawr tua 50% yn uwch nag ar ddechrau mis Rhagfyr.

“Bydd y galw gan brynwyr yn parhau’n gryf wrth i’r flwyddyn nesaf ddechrau, ond wrth i’r farchnad ddechrau normaleiddio yn 2022, efallai y bydd cynnydd yng nghyfradd y gweithgarwch ymysg pobol sy’n symud, sy’n cymryd rhan yn y farchnad fel gwerthwyr yn ogystal â phrynwyr. Dylai hyn leddfu’r cyfyngiadau yn y cyflenwad, i ryw raddau.

“Mae ffactorau eraill fydd yn effeithio ar brisiau’r flwyddyn nesaf yn gynnwys tymhestloedd economaidd ar ffurf chwyddiant yn codi – a fydd yn gwthio costau byw yn uwch.

“Hyd yn oed gydag ychydig o gynnydd mewn cyfraddau llog, mae cyfraddau morgeisi yn debygol o aros yn gymharol isel o gymharu â’r cyfartaleddau hirdymor, ac mae yna fwy o le i brisiau gynyddu dros rai o’r marchnadoedd tai mwyaf fforddiadwy.”

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, mae’r ddwy blaid wedi addo “gweithredu’n uniongyrchol a radical i fynd i’r afael â’r llu o ail gartrefi” er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai.