Fe allai Llywodraeth Cymru rhoi pwerau newydd i gynghorau sir a fyddai’n cyfyngu ar greu tai haf o’r flwyddyn nesaf.

Dan y drefn, efallai y byddai angen caniatâd awdurdod lleol ar berchnogion tai i drosi eiddo o dan gynigion y llywodraeth.

Gwnaeth gweinidogion hefyd lansio ymgynghoriad ar newid y cyfreithiau cynllunio yn dilyn pryder am effeithiau nifer yr ail gartrefi.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r cynllun yn “dwyn ynghyd amrywiaeth o gamau ar gyfer mynd i’r afael â’r effeithiau y gall niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr eu cael ar gymuned”.

Mae Dwyfor, sy’n cynnwys Pen Llŷn a’r ardal i’r gorllewin o Borthmadog, wedi ei ddewis fel ardal beilot a fydd yn cychwyn fis Ionawr, gyda £1m ar gael i brynu ac adnewyddu cartrefi gwag yn yr ardal.

Fe fydd dau swyddog hefyd yn cael eu penodi i gynghori ardaloedd ar yr hyn y gallai pobol ei wneud i helpu’r farchnad dai.

Camau gweithredu

Bydd yr ymgynghoriad ar newid rheolau cynllunio yn para tri mis a gallai ddod i rym erbyn yr haf, meddai swyddogion.

Byddai hyn yn golygu y byddai angen caniatâd cynllunio i droi cartref yn ail gartref neu wyliau mewn cymunedau lle mae cynghorau’n credu “eu bod yn achosi anawsterau sylweddol”.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James fod Llywodraeth Cymru “am i bobol ifanc gael gobaith realistig o brynu neu rentu cartrefi fforddiadwy yn y lleoedd y maent wedi tyfu i fyny fel y gallant fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol”.

“Gall niferoedd uchel o gartrefi ail a chartrefi gwyliau mewn un ardal fygwth y Gymraeg yn ei chadarnleoedd ac effeithio ar gynaliadwyedd rhai ardaloedd gwledig,” meddai.

‘Gweithredu Radical’

Ar hyn o bryd mae 24,873 o ail dai wedi eu cofrestru yng Nghymru.

Yn ôl adroddiad y llynedd mae mwy na 10% o gartrefi yng Ngwynedd yn cael eu hystyried yn gartrefi gwyliau.

Y pryder mawr yw fod ail gartrefi yn prisio pobol allan o’u pentrefi genedigol yn ogystal ag effeithio ar gadarnleoedd y Gymraeg yn y gogledd a’r gorllewin.

Fel rhan o’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru, maen nhw wedi addo “gweithredu’n uniongyrchol a radical i fynd i’r afael â’r llu o ail gartrefi”.

Daeth ymgynghoriad arall i ddefnyddio’r system dreth i reoli’r farchnad ail gartrefi i ben yr wythnos ddiwethaf, ac mae Llywodraeth Cymru yn didoli’r ymatebion cyn i weinidogion benderfynu beth i’w wneud.

Fe all hyn arwain at drethi cyngor sy’n uwch ar ail gartrefi, neu olygu bod cyfyngiadau newydd ar gofrestru cartrefi fel busnesau.

Mae colofn ym mhapur newydd The Telegraph wedi beirniadu’r cytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru sy’n addo mynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Fe ddywedodd y papur newydd fod hyn yn “codi ofn ar fuddsoddiad i ffwrdd o’r ‘Principality’ gan niweidio twf economaidd”.

Cymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith, sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn ail gartrefi, wedi croesawu’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

“Bydd rheoleiddio llety gwyliau, caniatáu i awdurdodau lleol ei gwneud yn orfodol i gyflwyno cais cynllunio i newid defnydd tŷ i fod yn ail dŷ neu lety gwyliau ac arian i gymryd tai gwag mewn i ddwylo cyhoeddus yn cael effaith cadarnhaol ar y stoc tai ar lawr gwlad,” meddai Mabli Siriol, Cadeirydd y gymdeithas.

Ond yn dilyn rali gyda mwy na 1,000 ar risiau’r Senedd yr wythnos ddiwethaf, mae’r Gymdeithas yn galw am “Ddeddf Eiddo gynhwysfawr”.

“Mae hyn yn gam ymlaen, ond roedden ni’n gwybod eisoes am y bwriad am gynllun peilot yn Nwyfor,” meddai.

“Mae’n dda gweld y bydd hwnnw’n dechrau fis Ionawr ac y bydd camau ymarferol yn rhan o hynny ond beth am weddill Cymru?

“Rydyn ni’n gwybod yw’r atebion i’r problemau yn ein system tai – dylai’r cynigion gael eu gweithredu ar draws y wlad.