Mae gêm newydd sydd wedi cael ei datblygu gan academyddion ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi’r cyfle i chwaraewyr gael chwarae rôl prif weinidog yn ystod y pandemig.
Mae ‘Trust The Experts’, gêm addysgol i bobol 15-18 oed, yn profi sgiliau meddwl yn gritigol a gwneud penderfyniadau wrth ailgreu sefyllfaoedd go iawn.
Mae chwaraewyr yn dechrau’r gêm drwy chwarae rôl prif weinidog sydd newydd gael ei ethol i arwain Aberdemic, gwlad Ewropeaidd, ac yn wynebu pandemig byd-eang.
Ymhlith y penderfyniadau allweddol mae a ddylid cau ffiniau’r wlad a sut i gyfathrebu â thrigolion y wlad, a hynny ar sail cyngor gan arbenigwyr gan gynnwys academyddion.
Wrth i’r gêm fynd rhagddi, gall chwaraewyr weld effaith eu penderfyniadau, gan gynnwys hapusrwydd y genedl, ymddiriedaeth y cyhoedd yn y llywodraeth, a chyflwr iechyd y wlad.
Ond fel gwleidyddion go iawn, mae’n rhaid mynd i’r afael ag ystod o gyngor gwrthgyferbyniol o sawl ffynhonnell, gan ddangos sut gall camwybodaeth ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau.
Penderfyniadau “ddim yn ddu a gwyn”
“Pan ddechreuon ni ddyfeisio’r gêm, roedden ni eisiau i ddisgyblion gael profiad personol o sut mae penderfyniadau’n cael eu dylanwadu gan gyngor, a sut mae’r cyngor hwnnw weithiau’n gallu bod yn wrthgyferbyniol,” meddai’r Athro Iwan Williams, uwchddarlithydd y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe.
“Mae’n demtasiwn portreadu materion o bwys cenedlaethol fel rhai cywir neu anghywir, yn ddu a gwyn, pan fo’r realiti lawer iawn mwy amrywiol,” meddai.
“Yn ‘Trust The Experts’, mae’n rhaid i chwaraewyr ddefnyddio’u sgiliau meddwl yn gritigol wrth iddyn nhw fynd drwy’r gêm, ac rydym yn gobeithio o wneud hynny ei bod yn eu hannog nhw i fod yn ddinasyddion gweithgar a fydd yn ceisio ystod o safbwyntiau o safon i’w helpu i wneud penderfyniadau.”
Cafodd y gêm ei datblygu trwy arian gan HEFCW a’i adeiladu gan y cwmni apiau Cymreig Big Lemon.
Mae’r gêm eisoes wedi cael ei lansio mewn nifer o ysgolion.
“Mae’r gêm yn ffordd gyffrous ac arloesol i ddisgyblion ysgol ddefnyddio’u sgiliau critigol a dadansoddol,” meddai Jen McBride, myfyriwr Marchnata Strategol a rheolwr prosiect Trust The Experts.
“Gobeithio y bydd hefyd yn agor eu llygaid i sut gall astudio’r dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol gael effaith ar fywydau pobol, ar lefel leol a byd-eang.”