Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ar frys ag achosion o gamddefnyddio’r ap TikTok mewn ysgolion.

Daw sylwadau Laura Anne Jones, llefarydd addysg y blaid, yn dilyn achosion mewn ysgolion yng Ngheredigion a Chwm Tawe.

Fe ddaeth i’r amlwg fod disgyblion wedi bod yn defnyddio’r ap poblogaidd TikTok i sarhau eu hathrawon, gan gynnwys rhoi wynebau staff ar luniau pornograffig, gwneud sylwadau dirmygus amdanyn nhw, a hyd yn oed awgrymu bod rhai athrawon yn bedoffiliaid.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dweud eu bod nhw’n cydweithio â’r heddlu ac ysgolion i fynd i’r afael â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol ffug “amhriodol” mewn ysgolion.

Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn dweud bod y “mwyafrif llethol o ddisgyblion wedi arddangos agwedd aeddfed iawn gan fynegi eu hanniddigrwydd gyda’r cynnwys”.

Mae’n debyg bod achosion tebyg wedi bod yn Ysgol Cwm Tawe, Abertawe, gyda’r tuedd yn cael ei ledu rhwng disgyblion ysgol ar yr ap TikTok.

Mae adroddiadau bod athrawon yn ystyried gadael y byd addysg yn sgil yr helynt, ac mae’r heddlu wedi’u galw i un ysgol ar ôl i staff gael eu ffilmio’n gudd.

Camau ac arweiniad

“Mae hyn yn destun cryn dipyn o straen i athrawon sydd wedi cael eu targedu, mae gan undeb athrawon NASUWT enghreifftiau o athrawon yn cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd straen, a rhai hyd yn oed yn gadael y proffesiwn yn gyfangwbl,” meddai Laura Anne Jones.

“Byddwn yn croesawu datganiad manwl ar y mater hwn ynghylch yr union gamau ac arweiniad sydd wedi’u rhoi i athrawon, ysgolion ac awdurdodau lleol ar y mater hwn.

“Mae’n destun cryn bryder i weld y fath sylwadau sarhaus ffiaidd yn deillio o TikTok.

“Mae athrawon wedi teimlo straen y 18 mis diwethaf gymaint â neb, a’r peth diwethaf sydd ei angen ar addysg yng Nghymru wrth i ni ymadfer yw llai fyth o athrawon, a fyddai’n ychwanegu at fethiant recriwtio Llafur dros y blynyddoedd diwethaf.

“Rhaid i’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd gydweithio â’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol priodol i gymryd camau yn erbyn cynnwys niweidiol ar eu safleoedd ac i sicrhau bod yna broses glir er mwyn adrodd am gynnwys i warchod unigolion ac i adfer hyder.”

 

Pryder am ddisgyblion ysgol yn defnyddio cyfrifon TikTok i greu deunydd “amhriodol”

Bu’r cyfrifon yn rhoi wynebau staff ar luniau pornograffig ac yn awgrymu bod rhai athrawon yn bedoffiliaid