Bydd ysgol gynradd yng ngogledd Powys yn cau y flwyddyn nesaf ar ôl i Gabinet y Cyngor Sir gymeradwyo’r cynnig.
Fel rhan o’u strategaeth i drawsnewid addysg yn y sir rhwng 2020 a 2030, fe gynigiodd Cyngor Sir Powys i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Castell Caereinion ar Awst 31, 2022.
Yn gynharach eleni, fe gytunodd y cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol, ac fe gafodd hynny ei gyhoeddi ym mis Medi eleni.
Yn ystod cyfnod yr hysbysiad statudol, derbyniodd y Cyngor 21 o wrthwynebiadau, ond wnaeth hynny ddim effeithio ar eu penderfyniad terfynol yn y cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 23).
Bydd y 23 disgybl sy’n mynychu’r ysgol nawr yn symud i ysgolion cynradd cyfagos erbyn mis Medi’r flwyddyn nesaf.
Ad-drefnu
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo, y byddai llawer o “benderfyniadau dyrys” yn wynebu Cyngor Sir Powys wrth iddyn nhw ad-drefnu addysg gynradd yn y sir.
“Ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau’n ofalus, mae’r Cabinet wedi cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Castell Caereinion,” meddai.
“Rydym wedi ymrwymo i drawsnewid profiadau a hawliau ein dysgwyr ac fe wnawn wireddu hynny trwy gyflwyno ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys 2020-2030.
“Mae ein strategaeth yn un uchelgeisiol a chyffrous a chredwn y bydd yn rhoi’r dechrau gorau posibl a haeddiannol i’n dysgwyr.
“Ond wrth i ni ddechrau ei rhoi ar waith, byddwn yn wynebu penderfyniadau dyrys wrth i ni geisio mynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu addysg ym Mhowys.
“Mae’r rhain yn cynnwys nifer fawr o ysgolion bach yn y sir, gostyngiad yn nifer y disgyblion, a nifer fawr o leoedd gwag.”
‘Nid ar chwarae bach’
Ychwanegodd y Cynghorydd Phyl Davies fod y broses wedi bod yn un ddadleuol, ond y bydd unrhyw benderfyniad o fudd i’r dysgwyr yn y pen draw.
“Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn,” meddai.
“Roedd uwch-arweinwyr o fewn y cyngor yn herio’r penderfyniad yn gadarn bob cam o’r ffordd, ond fe’i datblygwyd er budd y dysgwyr sydd wedi bod ar flaen ein trafodaethau a’n penderfyniadau.”