Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw drachefn am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.

Dywed Darren Millar, llefarydd gogledd Cymru a’r Cyfansoddiad y Ceidwadwyr Cymreig, fod angen i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru “wneud y peth iawn”, gan gyfeirio ar gam at y Cytundeb Cydweithio rhwng y ddwy blaid fel ‘clymblaid’.

Yn hytrach, bydd y ddau bartner yn cydweithio dros y tair blynedd nesaf i ddatblygu a goruchwylio’r gwaith o wireddu’r polisïau, sy’n ymwneud â 46 maes, yn y cytundeb.

Fydd Aelodau Plaid Cymru ddim yn ymuno â Llywodraeth Cymru fel Gweinidogion na Dirprwy Weinidogion, ond bydd Plaid Cymru yn penodi aelod arweiniol dynodedig ar gyfer y cytundeb.

Bydd pwyllgorau sy’n cynnwys Gweinidogion y Llywodraeth ac aelodau dynodedig Plaid Cymru’n cael eu sefydlu i gytuno ar faterion sydd wedi’u cynnwys yn y cytundeb.

Ymchwiliad

Daw galwad ddiweddaraf y Ceidwadwyr Cymreig yn dilyn cyhoeddi adroddiad damniol i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Amlygodd Adroddiad Holden ddiwylliant o fwlio a bygwth, prinder staff ac esgeulustod cleifion ar Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd.

Mewn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog, holodd Darren Millar pa wersi yr oedd y Llywodraeth wedi’u dysgu o’r adroddiad.

Ar ben hynny, gofynnodd a oedd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am y niwed i gleifion o ystyried ei fod yn Weinidog Iechyd ar y pryd, cyn galw am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.

Dywedodd Mark Drakeford nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i gynnal ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.

“Cyfrifoldeb”

“Fe wnaeth Mark Drakeford osgoi cyfrifoldeb fel Gweinidog Iechyd pan oedd problemau difrifol yn codi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr flynyddoedd yn ôl, ac mae’n osgoi cyfrifoldeb nawr fel Prif Weinidog drwy wrthod cynnal ymchwiliad Covid Cymru,” meddai Darren Millar mewn datganiad.

“Mae Plaid Cymru wedi cefnogi galwadau’r Ceidwadwyr Cymreig am ymchwiliad sy’n benodol i Gymru ers tro byd ac o ystyried eu bod bellach yn y gwely gyda’r Llywodraeth Lafur, maen nhw mewn sefyllfa unigryw i fynnu bod gweinidogion yn gwneud y peth iawn, ond yn anffodus mae’n ymddangos eu bod nhw wedi colli eu hegwyddorion.

“Yn hytrach na blaenoriaethu mwy o wleidyddion a diwygio cyfansoddiadol, rhaid i Weinidogion Llafur a’u cynghreiriaid Plaid Cymru roi’r gorau i sarhau teuluoedd pobol a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig a chomisiynu ymchwiliad Covid Cymru cyn gynted â phosibl.”

Wrth ymateb ar lawr y Siambr, dywedodd Mark Drakeford ei fod e wedi trafod “y mater llawn” gyda Michael Gove yr wythnos ddiwethaf, a’i fod e wedi derbyn rhagor o sicrwydd y byddai’r ymchwiliad “yn rhoi’r atebion sydd eu hangen ar deuluoedd yng Nghymru”.

Cyhoeddi Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru

Mae gweithredu ar ail gartrefi, a chynlluniau i osod terfynau ar ail gartrefi a thai gwyliau, ymhlith 46 maes gwahanol sy’n cael sylw yn y cytundeb