Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod am gychwyn ar y broses o wneud newidiadau i reoliadau cynllunio, ymhlith cynigion eraill, i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi.

Daw’r newyddion yn dilyn blynyddoedd o lobïo gan Gyngor Gwynedd, sydd wedi cynnwys cyflwyno tystiolaeth fanwl ac argymhellion o reoliadau i Lywodraeth Cymru fis Rhagfyr y llynedd.

Mae swyddogion o’r ddau sefydliad hefyd wedi cydweithio ar y ffordd ymlaen drwy gydol y cyfnod yn arwain at y cyhoeddiad.

Nawr, bydd yno ymgynghoriad sy’n ofynnol yn gyfreithiol i ddiwygio’r rheoliadau cynllunio ar gyfer ail gartrefi a gosodiadau gwyliau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn treialu ystod ehangach o fesurau ar lefel leol yn Nwyfor, ardal o Wynedd sydd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ail gartrefi ers dechrau’r pandemig.

‘Moment arwyddocaol’

“Mae hon yn foment arwyddocaol,” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd.

“Am y tro cyntaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod ganddi rôl allweddol i’w chwarae i sicrhau y gall y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol barhau i fyw yn ein cymunedau arfordirol a gwledig fel mater o gyfiawnder cymdeithasol.

“Yn benodol, rydym yn rhoi croeso cynnes i’r cadarnhad fod Llywodraeth Cymru yn cychwyn ar y camau angenrheidiol i ddiwygio’r rheoliadau cynllunio ar yr egwyddor y bydd angen hawl cynllunio yn y dyfodol ar unrhyw un sy’n ceisio newid defnydd annedd o gartref cynradd i ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.”

Bydd yr ymgynghoriad ar gyfer cyflwyno dosbarthiadau defnydd cynllunio ar wahân ar gyfer cartrefi cynradd, ail gartrefi a gosodiadau gwyliau, a gafodd ei lansio heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 23) gan Lywodraeth Cymru, yn cychwyn yn fuan, gyda’r tystiolaeth a gaiff ei chasglu’n helpu i benderfynu a fydd y newidiadau polisi yn mynd yn eu blaen ai peidio.

Cyngor Gwynedd “ar flaen y gad”

“Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, gall y trafodaethau ymarferol ynglŷn â rheoli ail gartrefi, cartrefi gwyliau ac AirBnBs ddechrau o ddifri,” meddai Dyfrig Siencyn.

“Rwy’n falch o’r ffaith bod Cyngor Gwynedd wedi bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch i sicrhau’r newidiadau cenedlaethol yma ac am y gwaith manwl y tu ôl i’r llenni gan ein swyddogion i lunio achos clir dros yr angen am newidiadau ar y lefel genedlaethol.

“Mae hi bellach yn hanfodol bod pawb sydd am weld dyfodol bywiog a chynaliadwy i’n cymunedau, yn cymryd rhan yn y broses ymgynghori.

“Rydym am sicrhau bod y dystiolaeth yn glir o blaid newid.

“Trwy wneud hyn gallwn gydweithio i sicrhau fod cynlluniau’r Llywodraeth yn cynnig yr atebion ymarferol sydd eu hangen yn ein cymunedau.

“Bydd Cyngor Gwynedd yn parhau i chwarae ein rhan lawn wrth sicrhau bod y cynigion hyn yn llwyddo ac edrychwn ymlaen at eistedd i lawr gyda’r Llywodraeth i drafod holl fanylion eu cynigion a sut y gellir eu gweithredu’n effeithiol ar lawr gwlad yma yng Ngwynedd.”

‘Uchelgais’

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd. ei fod “yn falch iawn o glywed am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer cartrefi gwag”.

“Yng Ngwynedd, rydym wedi cyflawni llawer dros y blynyddoedd diwethaf a, chyda’n cefnogaeth a’n cymorth, mae 655 o dai gwag wedi’u dwyn yn ôl i ddefnydd,” meddai.

“Edrychaf ymlaen at allu gwneud llawer mwy gyda’r gefnogaeth ychwanegol yma.

“Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at glywed yn hyn sydd wedi’i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer rhaglenni allweddol eraill fel Cynllun Prynu Cartref – mae hwn yn gynllun pwysig ac rydym eisoes wedi ymrwymo £4 miliwn iddo yng Ngwynedd.

“Yn ddiweddar, mabwysiadwyd ein Cynllun Gweithredu Tai uchelgeisiol sy’n ceisio sicrhau bod gan bobol Gwynedd fynediad i gartref addas sydd o safon uchel, yn fforddiadwy ac yn gwella ansawdd eu bywyd.

“Bydd y mesurau ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn cefnogi’r uchelgais hon ac yn darparu mwy o gyfleoedd i bobol Gwynedd fyw yn eu cymunedau.”

 

Rali Nid Yw Cymru Ar Werth

Ail gartrefi: fe allai cynghorau sir dderbyn pwerau newydd i ddelio â’r argyfwng tai

Fe allai cynghorau sir dderbyn pwerau a fyddai’n cyfyngu ar greu tai haf y flwyddyn nesaf