Bydd bachgen 14 oed yn mynd gerbron llys heddiw (dydd Llun, Tachwedd 29), wedi’i gyhuddo o lofruddio Ava White, merch 12 oed, yn Lerpwl.

Mae e wedi’i gadw yn y ddalfa mewn uned i bobol ifanc.

Yn ôl yr heddlu, cafodd y ferch “anafiadau catastroffig” yn dilyn ymosodiad nos Iau (Tachwedd 29).

Roedd hi wedi bod yn y ddinas gyda’i ffrindiau i weld y ddinas yn cael ei goleuo ar gyfer y Nadolig pan didoddefodd hi ymosodiad am 8.39yh.

Mae’r bachgen 14 oed, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi’i gyhuddo o lofruddio ac o fod â llafn yn ei feddiant.

Cafodd tri bachgen arall rhwng 13 a 15 oed eu harestio, ac maen nhw ar fechnïaeth amodol erbyn hyn wrth i’r ymchwiliad barhau.

Ffrae

Yn ôl adroddiadau, fe fu Ava White, merch “boblogaidd” a “disglair”, mewn “ffrae eiriol” wnaeth droi yn “ymosodiad â chyllell”, meddai’r heddlu.

Mae lle i gredu bod y sawl oedd yn gyfrifol wedi rhedeg i ffwrdd drwy strydoedd Lerpwl yn dilyn y digwyddiad.

Cafodd Ava White ei chludo i ysbyty plant Alder Hey yn Lerpwl ar ôl cael triniaeth gan barafeddygon, ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae teyrngedau wedi’u gadael iddi ar strydoedd y ddinas, wrth i’r heddlu barhau i gynnal ymchwiliad ac archwilio’r safle.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi llun o fan oedd yn yr ardal ac maen nhw’n dweud y gallai’r sawl oedd yn teithio yn y cerbyd fod wedi bod yn dystion i’r ymosodiad.