Mae disgwyl i’r Cyd-bwyllgor ar Imiwnedd a Brechu (JCVI) ddweud a ydyn nhw’n argymell ymestyn y rhaglen atgyfnerthu ai peidio yn nes ymlaen heddiw (dydd Llun, Tachwedd 29).

Dywed yr Athro Anthony Harnden, dirprwy gadeirydd y JCVI, y byddai’n beth “call” cwtogi’r amser rhwng dosys o’r brechlyn, ac i ymestyn y rhaglen ar gyfer pobol dan 40 oed.

Hyd yn hyn yn ystod y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dilyn argymhellion y JCVI ynglŷn â brechu.

Daw hyn ar ôl i drydydd achos o’r amrywiolyn Omicron gael ei ganfod yn y Deyrnas Unedig.

Bydd gweinidogion iechyd cenhedlodd y G7 yn cyfarfod heddiw i “drafod datblygiadau Omicron”, meddai Adran Iechyd San Steffan.

Mae’r dystiolaeth hyd yn hyn yn awgrymu ein bod yn fwy tebygol o gael ein hail-heintio yn sgil yr amrywiolyn newydd, a gafodd ei gofnodi gan Sefydliad Iechyd y Byd ddydd Mercher diwethaf (Tachwedd 24).

Mae achosion wedi cael eu canfod yn Essex a Nottingham hyd yma, ac mewn un person a dreuliodd gyfnod yn Llundain ond sydd bellach wedi gadael y Deyrnas Unedig.

Er hynny, dywed yr Asiantaeth Diogelwch Iechyd ei bod hi’n “debygol iawn” y bydd mwy o achosion yn dod i’r amlwg yn y dyddiau nesaf.

‘Strategaeth gall’

Wrth siarad â BBC Radio 4, dywedodd yr Athro Anthony Harnden fod yna “ddadl gref” dros gynnig y brechlynnau atgyfnerthu i bob oedolyn.

“Byddai cyflymu’r rhaglen atgyfnerthu drwy ymestyn yr ystod oedran a chwtogi’r bwlch amser rhwng yr ail ddos a’r brechlyn atgyfnerthu yn strategaeth gall,” meddai.

Ar hyn o bryd, mae’r brechlynnau atgyfnerthu yn cael eu cynnig i bawb dros 40 oed, staff rheng flaen gofal ac iechyd, a phobol sydd â chyflyrau iechyd gwaelodol.

Pan gafodd yr Athro Harnden ei holi a ddylai pawb dros 18 oed ddisgwyl gwahoddiad i gael eu brechlyn atgyfnerthu, dywedodd y bydd y cynnig yn dod yn “gyflymach nag roedden ni wedi’i ddychmygu o’r blaen”.

Mae’r rheolau ynghylch teithio rhyngwladol wedi newid yn sgil yr amrywiolyn newydd, ac mae De Affrica, Namibia, Lesotho, Botswana, Eswatini, Zimbabwe, Zambia, Angola, Malawi, a Mozambique wedi cael eu symud i restr goch y Deyrnas Unedig.

Mae’n rhaid i deithwyr sy’n dod i Gymru o’r gwledydd hyn gyrraedd drwy’r Alban neu Loegr, a hunanynysu mewn gwesty cofrestredig am ddeng niwrnod.

Rhaid iddyn nhw gymryd prawf PCR ar yr ail ddiwrnod ac eto ar yr wythfed diwrnod ar ôl dychwelyd.