Wrth i Barbados yn y Caribî ddod yn weriniaeth, mae Tywysog Charles wedi bod yn tynnu sylw at y cysylltiadau a fydd yn para rhwng yr ynys a’r Deyrnas Unedig.
Daw hyn wrth i seremoni gael ei chynnal i nodi’r achlysur.
Bydd e’n mynnu ei bod hi’n “bwysig” iddo gymryd rhan yn y seremoni yn y brifddinas Bridgetown er mwyn “atgyfnerthu’r pethau nad ydyn nhw’n newid”.
Enillodd Barbados ei hannibyniaeth 55 mlynedd yn ôl, ond dyma’r tro cyntaf i’r ynys gael arlywydd, gyda’r Fonesig Sandra Mason yn cael ei derbyn i’r swydd.
Mae’r seremoni’n nodi diwedd teyrnasiad Brenhines Loegr yn bennaeth ar yr ynys.
Mae disgwyl i’w mab dynnu sylw at “bartneriaeth agos llawn ymddiriedaeth… fel aelodau hanfodol o’r Gymanwlad” a’r “penderfyniad i amddiffyn y gwerthoedd sy’n annwyl i ni’n dau ac i ddilyn y nodau sydd gennym yn gyffredin”.
Fe fydd e hefyd yn dathlu’r cysylltiadau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd rhwng y Deyrnas Unedig a Barbados, partneriaeth lle mae “edmygedd ac anwyldeb, cydweithredu a chyfleoedd yn llifo” gan “gryfhau a chyfoethogi pawb”.
Hanes Barbados
Mae Barbados yn dilyn esiampl sawl ynys yn y Caribî sydd wedi cefnu ar Frenhines Loegr.
Daeth Guyana yn weriniaeth yn 1970, Trinidad a Tobago yn 1976, a Dominica yn 1978.
Mae Jamaica hefyd wedi nodi dymuniad i ethol arweinydd newydd yn bennaeth ar y wladwriaeth, wrth i’r prif weinidog Andrew Holness ddweud bod hynny’n flaenoriaeth i’w lywodraeth.
Mae disgwyl protestiadau yn ystod y dydd, wrth i rai o drigolion Barbados fynnu ymddiheuriad ac iawndal gan y frenhiniaeth a Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gaethwasiaeth.
Serch hynny, bydd y tywysog yn derbyn Rhyddid Barbados am ei wasanaeth eithriadol i’r ynys, ei phobol neu’r ddynoliaeth yn gyffredinol.
Bu ei fam yn bennaeth ar y wladwriaeth ers iddi ddod yn annibynnol yn 1966, ac mae dod yn weriniaeth wedi bod yn drafodaeth gyson ers hynny.
Mae Barbados yn un o 16 o deyrnasoedd Brenhines Loegr – ymhlith ei hynysoedd yn y Caribî mae Antigua a Barbuda, y Bahamas, Belize, Grenada, Jamaica, St Kitts a Nevis, Saint Lucia a St Vincent.