Byddai tlodi yng Nghymru’n cael ei haneru pe bai Llywodraeth Cymru’n sefydlu system incwm sylfaenol, yn ôl astudiaeth gan y felin drafod Autonomy.

Mae’r astudiaeth wedi canfod y byddai tlodi ar y cyfan yn gostwng o 50%, tra byddai tlodi plant yn gostwng o 64%, gan ddod â’r lefel i lai na 10% yng Nghymru.

28% yw lefel tlodi plant yng Nghymru ar hyn o bryd, sef y ffigwr gwaethaf o blith gwledydd y Deyrnas Unedig.

Mae’r astudiaeth hefyd wedi canfod fod 69% o bobol yng Nghymru’n cefnogi lansio cynllun peilot ar gyfer sefydlu’r fath system.

Rhaglen y llywodraeth yw system incwm sylfaenol lle mae pob trigoyn yn derbyn swm penodol o arian yn rheolaeth waeth bynnag am eu statws cyflogaeth.

Isafswm taliad yw e er mwyn diwallu anghenion sylfaenol, ac mae’n cael ei dalu’n ddiamod i bawb yn unigol.

Deiseb

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddymuniad i lansio cynllun peilot i sefydlu system o’r fath yng Nghymru, ond roedd awgrym y byddai’n canolbwyntio ar garfannau penodol yn y gymdeithas, megis y rhai sy’n gadael gofal, yn unig.

Mae dros 1,000 o bobol, gan gynnwys Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Sophie Howe, bellach yn cefnogi deiseb yn galw ar y prif weinidog Mark Drakeford i sicrhau bod y cynllun peilot yn cynnwys plant, gweithwyr, pobol ddi-waith a phensiynwyr, yn ogystal â’r rhai sy’n gadael gofal.

Bydd Sophie Howe yn cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Deisebau’r Senedd heddiw (dydd Llun, Tachwedd 29), ochr yn ochr â Will Stronge, cyfarwyddwr ymchwil Autonomy, gan alw am gynllun incwm sylfaenol cyffredinol.

Dywed y gallai’r fath gynllun sicrhau “Cymru fwy cydradd a llewyrchus”.

Treialon

Gallai treialon sy’n cynnwys 2,500 o bobol gostio oddeutu £50m, yn ôl adroddiad, sy’n dweud y gallai oedolion dderbyn o leiaf £60 yr wythnos.

Y rhai sy’n byw ag afiechydon neu’n byw mewn tlodi neu mewn cymunedau ar y cyrion sydd wedi dioddef waethaf yn ystod y pandemig, yn ôl pob tebyg.

Yn ôl rhai sydd wedi ymateb i ymchwiliad y Senedd, mae costau byw cynyddol, diwedd y cynllun saib swyddi neu ffyrlo, a thoriadau i fudd-daliadau lles megis credyd cynhwysol, yn creu’r “storm berffaith”.

Mae’r Ffindir eisoes wedi cynnal arolwg tebyg rhwng 2017 a 2018, ac fe ddaeth i’r amlwg fod y rhai wnaeth ymateb yn fwy bodlon eu byd ac yn profi llai o straen meddyliol, iselder, tristwch ac unigrwydd.

Roedden nhw hefyd yn gweithio ychydig yn fwy na’r rhai oedd yn derbyn budd-daliadau diweithdra, ac yn nodi bod eu meddyliau’n gweithio ychydig yn well.

Er i’r Ffindir gynnal cynllun peilot, cafodd ei ystyried yn fethiant gydag arbenigwyr yn dweud na chafodd y cynllun ddigon o arian a’i fod e wedi cael ei ruthro.