Mae’n rhaid i bolisïau’r dyfodol warchod cyfraniad unigryw’r byd amaeth fel sy’n cael ei ddangos yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, yn ôl Llywydd NFU Cymru.
Dywed John Davies fod digwyddiadau amaethyddol fel y Ffair Aeaf yn tanlinellu’r angen i gydweithio ar bolisïau er mwyn sicrhau bod busnesau a chymunedau gwledig yn gallu ffynnu yn y dyfodol.
Daw ei sylwadau wrth i’r Ffair Aeaf gael ei chynnal am y tro cyntaf ers bron i ddwy flynedd heddiw (dydd Llun, Tachwedd 29), ac mae’n rhybuddio bod gan bawb sy’n gyfrifol am ddatblygu polisïau amaeth a chefn gwlad ddyletswydd i warchod a datblygu ar gyfraniad unigryw’r sector i’r gymdeithas ehangach.
“Mae pawb yn y sector amaeth yng Nghymru wrth ein boddau fod Ffair Aeaf Frenhinol Cymru wedi gallu mynd yn ei blaen heddiw,” meddai.
“Tra bod y digwyddiad yn cael ei adnabod yn fyd-eang fel ffenest siop ar gyfer y ffermwyr a’u da byw gorau yn unman yn y byd, mae’r Ffair Aeaf hefyd yn chwarae rôl bwysig drwy fod yn fan cyfarfod ar gyfer y diwydiant.”
Cyfyngiadau ac arwahanrwydd
“Ar ôl y cyfyngiadau a’r arwahanrwydd a gafodd ei orfodi yn sgil y pandemig Coronafeirws am gyhyd, mae’n rhyddhad fod llacio’r cyfyngiadau wedi caniatáu i ffermwyr, busnesau gwledig, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, yr elusennau ffermio a’r gadwyn gyflenwi ehangach allu cyfarfod unwaith eto ac ymgysylltu yn y digwyddiad hwn,” meddai wedyn.
“Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru’n enghraifft hyfryd o’r cyfraniad di-hafal mae ffermwyr Cymru’n ei wneud i les economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
“Rwy’n credu’n gryf fod gennym ni oll sy’n gysylltiedig â datblygu polisi yng Nghymru gyfrifoldeb i sicrhau ein bod ni’n gwarchod gallu ffermio i barhau i gynnig buddiannau niferus i bobol a chymunedau Cymru.
“Trwy gydweithio â phartneriaid ar draws y diwydiant bwyd a ffermio yng Nghymru, mae gan NFU Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf cynaliadwy ein sector.
“Yn wir, mae’r Ffair Aeaf yn cynnig y dystiolaeth fod Cymru mewn sefyllfa berffaith i fod yn arweinydd byd o ran cynhyrchu bwyd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd mewn tirlun sy’n cynnig cynefinoedd er mwyn i’n natur ffynnu.”
Cydweithio â Llywodraeth Cymru
“Mae NFU Cymru wedi ymroi i gydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau bod yr amodau polisi cywir yn galluogi’r sector bwyd a ffermio yng Nghymru i wireddu ei botensial,” meddai wedyn.
“Bydd cyflwyno Bil Amaeth (Cymru) i’r Senedd yn ystod hanner cyntaf 2022 yn garreg filltir i’n diwydiant, gan gynnig y fframwaith ar gyfer polisi amaeth a chynlluniau cymorth yn y dyfodol.
“Mae gennym ni gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddylunio, adeiladu a chyflwyno polisi bwyd a ffermio ‘o’r fferm i’r fforc’ sydd ‘wedi ei wneud yng Nghymru’ ac a all gynnig twf cynaliadwy’r sector bwyd a ffermio – sef cyflogwr mwyaf Cymru.”
Profi gwytnwch y sector
“Mae’r pandemig coronafeirws wedi profi gwytnwch nifer o gadwyni cyflenwi ac wedi tanlinellu pwysigrwydd cadwyni cyflenwi byrion a’r angen am sylfeini cynhyrchu domestig cryf,” meddai wedyn.
“Mae’n ein hatgoffa ni i gyd o bwysigrwydd sylfaenol bwyd diogel, maethlon a fforddadwy o safon uchel i bawb yn y gymdeithas.
“Dyna pam fod NFU Cymru’n credu’n gryf fod rhaid sefydlu mecanweithiau o fewn Bil Amaeth (Cymru) i sicrhau bod Cymru, fel cenedl fyd-eang gyfrifol, yn gallu parhau i chwarae ei rhan wrth sicrhau cyflenwadau bwyd ar gyfer ein cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol.
“Mae NFU Cymru wedi ei gwneud hi’n glir yn ein Gweledigaeth Sero Net 2040 y gallwn ni gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net ar gyfer amaeth ar yr un pryd â chynnal a gwella ein capasiti i borthi cwsmeriaid â bwyd Cymreig fforddadwy o safon.
“Rhaid i ni beidio gwireddu ein huchelgais cilyddol o gyrraedd sero-net ar draul cynhyrchu bwyd domestig a bywiogrwydd ein hardaloedd gwledig.
“Dyna pam fod rhaid cynnwys mecanweithiau i fesur a chyflawni amcanion mewn perthynas â chynhyrchu bwyd a bywiogrwydd ein hardaloedd gwledig yn y Bil Amaeth (Cymru), ochr yn ochr â’r mesurau a deilliannau amgylcheddol a gafodd eu hamlinellu eisoes gan Lywodraeth Cymru yn eu hymgynghoriadau blaenorol.
“Mae hon yn adeg i fod yn uchelgeisiol wrth feddwl gyda’n gilydd.
“Gyda’n gilydd, gallwn ni greu polisi sy’n harneisio gwerth cilyddol yr holl rinweddau ac asedau naturiol unigryw sy’n gwneud amaeth yng Nghymru mor arbennig; fframwaith sy’n gosod Cymru fel arweinydd byd-eang mewn cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac yn gadael gwaddol a fydd yn parhau i gynnig buddiannau niferus am genedlaethau i ddod.”