Mae gan Lywodraeth Cymru y weledigaeth o gynyddu gwerth y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru i £8.5bn ac o gynyddu canran y gweithwyr yn y sector sy’n derbyn y Cyflog Byw i 80% – a’u nod yw gwneud y ddau beth erbyn 2025.

Bydd y weledigaeth yn cael ei chyhoeddi gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, wrth iddi ymweld â’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd, a hithau’n cael ei chynnal flwyddyn ar ôl iddi gael ei chanslo yn sgil Covid-19.

Bydd y weledigaeth ar gyfer y diwydiant yn adeiladu ar lwyddiant y sector yng Nghymru, a’i nod yw helpu’r diwydiant bwyd a diod i ffynnu ac i fagu enw da am ragoriaeth ar draws y byd.

Mae’r weledigaeth yn cynnwys yr amcanion canlynol:

  • Bob blwyddyn, bydd gwerth trosiant sector bwyd a diod Cymru yn tyfu’n gymesur yn fwy na gweddill y Deyrnas Unedig, ac i o leiaf £8.5bn erbyn 2025.
  • Bydd cyfartaledd tair blynedd y Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) fesul awr sy’n cael ei gweithio yn y diwydiant yn cynyddu’n gymesur yn fwy na gweddill y Deyrnas Unedig.
  • Bob blwyddyn, bydd cyfran y gweithwyr yn y sector bwyd a diod sy’n derbyn Cyflog Byw Cymru o leiaf yn cynyddu, i 80% erbyn 2025.
  • Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau gweithgynhyrchu yn y diwydiant sy’n dal achrediad (e.e. rheoli amgylcheddol, datblygu staff, cynhyrchu a safonau perthnasol eraill).
  • Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod sy’n derbyn gwobrau sy’n briodol i’w busnes. Erbyn 2025, bydd o leiaf chwe chynnyrch Cymreig arall yn ymuno â Chynllun Gwybodaeth Ddaearyddol y Deyrnas Unedig.
  • Bydd gan 98% o fusnesau sgôr hylendid bwyd o 5 erbyn 2025.

Mae’r weledigaeth yn targedu pob busnes yn y diwydiant bwyd a diod, o fanwerthwyr ac allforwyr i dwristiaeth, ac o fragwyr a phobyddion i weithgynhyrchwyr a phroseswyr.

Strategaeth 2014-2020

Fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru rhwng 2014 a 2020, roedd twf o 30% gyda gwerthiant ar ei lefel uchaf yn £7.5bn yn 2019, gan ragori ar y targed o £7bn erbyn 2020.

Roedd gwerth £550m o allforion hefyd, i fyny o £408m.

Mae Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio’n cael ei ddatblygu ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod, a fydd yn hanfodol wrth helpu’r diwydiant i ddatgarboneiddio ac i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd mae symudiad Cymru tuag at fod yn sero-net yn eu cynnig.

‘Sector bwyd a diod bywiog a llwyddiannus’

“Mae’n wych bod yn ôl yn y Ffair Aeaf ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld wynebau newydd a chyfarwydd,” meddai Lesley Griffiths.

“Mae llawer wedi digwydd ers y digwyddiad diwethaf ac mae digon yr wyf am ei gyflawni o hyd a dyna pam rwy’n falch iawn o lansio ein gweledigaeth newydd ar gyfer y sector.

“Mae gennym sector bwyd a diod bywiog a llwyddiannus yma yng Nghymru yr wyf yn hynod falch ohono.

“Wrth wraidd popeth rydym wedi’i gyflawni mae wedi bod yn bartneriaeth wirioneddol rhwng busnes, academia a’r llywodraeth.

“Yn 2019, gofynnwyd i’r diwydiant ein helpu i lunio gweledigaeth newydd. Diolch enfawr i’r busnesau niferus a roddodd o’u hamser, eu mewnwelediad a’u barn sydd wedi helpu i lunio’r weledigaeth newydd hon.

“Mae gan y diwydiant bwyd a diod rôl hanfodol i’w chwarae yn esblygiad economi Cymru ac mae awydd cryf i gynnal y momentwm hwn.

“Rydym yn glir mai dim ond y dechrau yw’r amcanion a nodir yma. Mae hyn yn hanfodol er mwyn adeiladu ar ein llwyddiant cyffredinol.

“Ni allwn anwybyddu effeithiau Covid-19 a’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r ddau yn parhau i effeithio ar y diwydiant, a’r gymdeithas ehangach. Rhaid inni beidio â gadael i’r un ohonynt, fodd bynnag, amharu ar ein nodau hirdymor sef hyrwyddo twf a chynhyrchiant, gan hyrwyddo tegwch mewn gwaith, sicrhau bod busnesau’n cyrraedd y lefelau uchaf o gynaliadwyedd amgylcheddol a’u helpu i gyflawni hyn drwy wella eu henw da a’u safonau. Popeth y mae ein gweledigaeth newydd yn obeithio ei gyflawni.”