Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio rhoi mynediad i gwmnïau cydwladol i arian sydd ar gael trwy eu cynllun plannu coed.

Daw hyn yn sgil pryderon y blaid fod cwmnïau’n “gwyrddgalchu” eu hallyriadau trwy brynu tir ffermio yng Nghymru.

Ar drothwy’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd, mae Samuel Kurtz, llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw ar y llywodraeth i sichrau nad yw’r arian o blannu coed yn mynd i gwmnïau y tu allan i Gymru.

Mae adroddiadau bod cwmnïau cydwladol eisoes yn prynu tiroedd ffermio yma er mwyn lleihau eu hallyriadau carbon ac i hybu eu rhinweddau gwyrdd.

Glastir

Glastir yw cynllun rheoli tir cynaladwy Llywodraeth Cymru, ac mae’n cynnig cefnogaeth ariannol i ffermwyr a thirfeddianwyr.

Roedd adroddiadau’n ddiweddar bod David Mills, ffermwr ym Mhowys, wedi cael dirwy o £15,000 ar ôl iddo blannu coed ychydig fodfeddi i ffwrdd o’r lle cywir wrth ddilyn cynllun Glastir.

Daw sylwadau’r Ceidwadwyr Cymreig am y sefyllfa ar ôl misoedd o bryderon fod tir ffermio traddodiadol yn cael ei brynu gan gwmnïau cydwladol er mwyn lleihau eu hallyriadau carbon.

“Fel mab i ffermwr, y peth diwethaf dw i eisiau ei weld yw ffermydd teuluol yn cael eu gwerthu i gwmnïau cydwladol i wella ei delwedd gyhoeddus eu hunain, tra eu bod nhw’n parhau i gynhyrchu ôl troed carbon enfawr yn gyfangwbl heb euogrwydd,” meddai Samuel Kurtz.

“Ar ddiwedd y dydd, ddylai Llywodraeth Cymru ddim bod yn dosbarthu arian trethdalwyr sy’n gweithio’n galed i’r sawl nad ydyn nhw’n weithgar yn ein cymdeithas a’n heconomi sydd eisiau gwneud yn iawn am eu cydwybod amgylcheddol, cymaint â’u hôl troed carbon eu hunain.

“Trwy atal taliadau Glastir i gwmnïau tramor, byddem yn sicrhau bod yr arian hwnnw’n cyrraedd dwylo’r ffermwyr a rheolwyr tir yma. Yn y modd hwnnw, gallwn eu hannog nhw i ddefnyddio’u tir eu hunain i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

“Pe bai’r Ceidwadwyr Cymreig yn rheoli dosbarthu arian Glastir, gallech fod yn sicr y byddai ffermwyr yn cael eu hannog i blannu coed, ac yn cael eu gwobrwyo am wneud hynny.

“Mae’n fater o’r goeden gywir yn y lle cywir am y rhesymau cywir.”