Mae cynaliadwydd yn greiddiol i ddyfodol ffermydd teuluol, yn ôl cadeirydd Hybu Cig Cymru.
Daw sylwadau Catherine Smith wrth iddi annerch y Ffair Aeaf yn Llanelwedd gan egluro bod cynaliadwyedd yn golygu creu dyfodol sy’n cwrdd â gobeithion plant sy’n byw ar rwydwaith Cymru o ffermydd teuluol.
“Mae dyfodol ffermydd teuluol ar flaen fy meddwl oherwydd mae gen i dri o blant uchelgeisiol y byddaf wrth fy modd yn gweld yn creu dyfodol yn y diwydiant amaeth os mai dyna yw eu dewis,” meddai.
“Ni allwn eu siomi; maen nhw’n ymddiried ynom ni i adeiladu Cymru sy’n werth byw ynddi am genedlaethau i ddod.
“Gofynnais i fy mhlant yn ddiweddar sut roedden nhw’n gweld eu dyfodol.
“Dywedodd Noah, sy’n wyth oed, ‘Rwyf am fod yn ffermwr sy’n garedig i natur.’ Cefais fy synnu’n fawr. Yna sylweddolais y byddai hynny’n ei wneud yn ffermwr yn union fel ni.
“Dyna’n union beth rydyn ni’n ei wneud, ennill bywoliaeth ac ar yr un pryd edrych ar ôl natur – ein hanifeiliaid a’n hamgylchedd – gydag angerdd a sensitifrwydd.
“Mae cynaliadwyedd yn golygu creu dyfodol sy’n cwrdd nid yn unig ag amcanion polisi ond hefyd obeithion yr holl blant – nid yn unig Noah ond pob Nerys a Nathan a Natasha – ar bob un o’n ffermydd teuluol.”
‘Perffeithio’r ffordd Gymreig’
Fis diwethaf, cyhoeddodd Hybu Cig Cymru ganllaw ymarferol i ffermwyr, Perffeithio’r Ffordd Gymreig.
Mae’n nodi arferion gorau’r diwydiant ac yn crynhoi’r cyngor diweddaraf ynghylch sut i leihau allyriadau a chynyddu atafaelu carbon, yn ôl disgwyliadau’n ymwneud â newid hinsawdd.
“Rwy’n credu’n gryf mai’r ‘Ffordd Gymreig’ yw system gynhyrchu cig coch sy’n arwain y byd,” meddai Catherine Smith wedyn.
“Gydag arweinyddiaeth HCC, cefnogaeth Llywodraeth Cymru a chefnogaeth y diwydiant, gallwn fod yn arweinwyr y byd am ganrifoedd i ddod.”
Mae Cymru’n gyfoethog o ran dŵr a glaswellt, ac mae ganddi ddigonedd o dir sy’n amsugno carbon, meddai.
Mae ffermydd Cymru yn cynhyrchu protein o ansawdd uchel heb fewnforio porthiant sy’n niweidio coedwigoedd ac ecosystemau mewn rhannau eraill o’r byd.
“Gadewch i ni ei gwneud yn glir: mae’r diwydiant ffermio yn deall bod newid yn dda,” meddai wedyn.
“Rhaid i ni i gyd newid i oroesi. Ond mae’n rhaid i’r newid hwnnw gael ei adeiladu ar gyflawniadau’r gorffennol. Rhaid iddo ychwanegu at yr arferion gwaith effeithiol sydd wedi gweithio ar ein ffermydd teuluol dros genedlaethau.
“Arferion sy’n amddiffyn tirweddau lleol a’r diwylliant arbennig iawn y mae sawl canrif o amaethu wedi’i greu. Arferion sy’n sylfaen gadarn ar gyfer cyflawni’r hyn y mae’r cwsmer modern ei eisiau.”
Newidiadau’n dibynnu ar dri pheth
Yn ôl Catherine Smith, mae newid cadarnhaol yn dibynnu ar dri pheth, sef y fframwaith polisi, arweinyddiaeth effeithiol a bod yn ymwybodol o farn y cyhoedd.
“Rwy’n ffyddiog y gellir perswadio pobol nad oes angen iddynt dorri cig coch allan o’u diet er mwyn bwyta mewn ffordd sy’n garedig i’r amgylchedd,” meddai.
“Maent yn cydnabod tirweddau hyfryd Cymru a’r stori y tu ôl i’n dulliau ffermio. Maent o’r farn bod Cig Oen Cymru yn cael ei gynhyrchu’n fwy cynaliadwy nag chig o fannau eraill.
“Mae’n hollbwysig i gael hyn yn iawn. Mae’r amgylchedd, yr economi a’n cymunedau yn dibynnu ar hyn. Nhw yw’r tair coes sy’n cefnogi stôl cynaliadwyedd – ac ar y stôl hon mae gobeithion ein plant, eu disgwyliadau a’u dyfodol yn eistedd.”