Mae melin drafod gwrth-dlodi sy’n cael sylw ar y rhaglen Wales This Week ar ITV yr wythnos hon yn darogan y gaeaf llymaf ers cyn cof.
Gyda chyfradd chwyddiant ar ei uchaf ers degawd, dydy ein harian ddim yn ymestyn cymaint ag yr oedd yn y gorffennol ac i rai, mae cadw’r tŷ yn gynnes wedi dod yn rhywbeth moethus.
“Dw i’n credu mai’r cyfnod rydyn ni’n mynd drwyddo fe yw’r un mwyaf heriol dw i’n ei gofio,” meddai Dr Victoria Winkler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan.
“Mae incwm pobol ar y cyfan yn rhai penodedig.
“Os ydyn nhw’n cael cymorth trwy’r system gymhorthdal gymdeithasol, dydy’r rhan fwyaf o’r cyfraddau budd-daliadau hynny ddim wedi codi ers rhai blynyddoedd ond eto, mae costau byw yn cynyddu o ddydd i ddydd.
“Mae’n rhoi pwysau ar unigolion a theuluoedd nad ydyn ni wedi’i weld ers amser hir iawn.”
Deanndra Wheatland
Bydd y rhaglen Wales This Week yn edrych ar ein costau byw cynyddol, gan gyfarfod â phobol ar y rheng flaen sy’n ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd.
Yn eu plith mae Deanndra Wheatland, 22, ac mae’r rhaglen yn cyfarfod â hi dair blynedd yn ôl, a hithau newydd golli ei mam ac wedi gorfod symud allan o gartre’r teulu.
Roedd Deanndra yn swyddogol yn ddigartref, gan symud o soffa ei hewythr i soffa nifer o ffrindiau yn eu tro.
Dair blynedd yn ddiweddarach, mae hi’n rhentu fflat yn Abertawe ond ar ôl talu rhent a biliau, dim ond £20 sydd ganddi yn ei phoced bob wythnos ar gyfer bwyd.
Mae hi’n un o 250,000 o bobol yng Nghymru sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, budd-dal a gafodd ei gynyddu o £20 yr wythnos dros dro gyda’r pandemig ar ei anterth.
Daeth y cynnydd wythnosol i ben ar ddechrau mis Hydref, ac mae arian parod Deanndra wedi cael ei haneru o ganlyniad.
A hithau’n gofalu am ei hewythr yn ardal Bon-y-maen ar gyrion y ddinas, mae effeithiau syfrdanol i’w phrinder arian.
“Mae fy ewythr yn byw ryw 25 munud i ffwrdd ac mae angen i fi ddal bws i’w gyrraedd e,” meddai.
“Mae tocynnau bws ryw £5 y tro.
“Nawr dw i’n gallu ei weld e unwaith bob wythnos efallai os ydw i’n lwcus.
“Roedd yr £20 ychwanegol yn achubiaeth oherwydd roedd e jyst mor hawdd. Byddwn i’n neidio ar fws.
“Ro’n i’n gwybod fod gen i’r arian i wneud hynny, ond nawr mae angen i fi wirio fy nghyfrif bob tro dw i’n mynd allan.
“Os yw fy ewythr yn ffonio ac yn dweud “Heia, dw i dy angen di”, mae’n rhaid i fi wirio fy nghyfrif i weld a oes gen i’r arian.”
Ymateb
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw “wedi ymrwymo i gefnogi pobol ar incwm isel” ac y bydd bron i ddwy filiwn o bobol ar y cyflogau isaf “yn well eu byd o ryw £1,000 y flwyddyn” o ganlyniad i newid Credyd Cynhwysol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud eu bod nhw wedi cymryd camau i helpu pobol ar incwm isel, gan gynnwys lansio cronfa gwerth £51m i gefnogi teuluoedd sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw, gan gynnwys cynllun tanwydd gaeafol gwerth £38m i deuluoedd sy’n derbyn budd-dal oed gwaith trwy brawf moddion.
Sian Stockham
Mae Sian Stockham yn 66 oed ac yn derbyn pensiwn gwladol, ond mae hi’n dweud nad yw hi’n gallu fforddio ymddeol.
Mae ganddi ddwy swydd yn y maes gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau bod ganddi ddigon o arian i fyw.
“Dw i’n sicr yn byw o un amlen tâl i’r nesaf ar hyn o bryd,” meddai.
“Mae gen i £200 ar ôl yn fy nghyfrif banc, ac mae gen i bythefnos arall cyn i fi gael fy nhalu.”
Mae hi wrth ei bodd yn gweithio, ond isafswm cyflog o £8.91 mae hi’n ei dderbyn, ac mae disgwyl i’r swm godi i £9.50 y flwyddyn nesaf.
Ond mae hi’n poeni o hyd na fydd hynny’n ddigon iddi.
“Dw i ddim yn troi’r gwres ymlaen,” meddai.
“Fe wna i wisgo siwmper a gŵn nos ac os oes angen a’i bod hi’n mynd yn oer iawn, fe af fi i’r gwely.
“Dyna un ffordd o gadw’n gynnes ac mae’n arbed arian i fi. Mae popeth yn cael ei dorri’n ôl yn araf bach.
“Dw i’n teimlo fy mod i’n dlawd yn gweithio. Dw i wedi gweithio ar hyd fy oes.
“Mae gen i fy nghartref ac ati, ond mae’n waith caled o ddydd i ddydd.”
Mae angen atgyweirio ei chartref sy’n 70 oed, ac mae ganddi ddyled o hyd at £7,000 er mwyn ariannu’r gwaith.
“Bu’n rhaid i fi roi arian ar gerdyn credyd i brynu pethau, ond rhaid talu hynny i gyd felly o ddydd i ddydd, dw i’n ceisio sicrhau fy mod i’n cadw fy mhen uwchben y dŵr, ond dw i’n dechrau boddi,” meddai.
Yn ôl Cyngor Ar Bopeth yng Nghymru, mae nifer y bobol sy’n ceisio cyngor ynghylch dyledion wedi codi 20% mewn blwyddyn ac mae Sian Stockham yn credu mai’r unig opsiwn sydd ganddi yw gwerthu cartref ei phlentyndod.
Gaeaf heriol
Ar drothwy’r gaeaf, mae disgwyl i’r cynnydd o 5% yn lefel chwyddiant gael cryn effaith ar ein harian.
Yn ôl Sefydliad Bevan, mae’n un o nifer o faterion rydyn ni’n eu hwynebu yn y misoedd sydd i ddod.
“Dw i’n credu y bydd y gaeaf hwn yn heriol iawn,” meddai Victoria Winkler.
“Does dim arwydd fod costau byw yn gostwng.
“Os rhywbeth, y rhagolygon yw fod chwyddiant am gynyddu eto.
“Ac mae’r chwyddiant hwnnw’n effeithio ar y pethau sylfaenol, mae’n effeithio ar gostau gwres, mae’n effeithio ar gostau bwyd.
“Rydyn ni hefyd yn clywed straeon am rent yn codi yn y sector preifat ac mae’r cyfan oll yn heriol pan nad oes gan bobol arian wrth gefn.
“Mae popeth yn cael ei wneud ar raddfa ficro lle mae pob punt, pob deg ceiniog, wir yn cyfri.
“Mae e wir yn gwneud gwahaniaeth.”