Fe fydd yr SNP yn cyflwyno cynnig o gerydd yn erbyn Boris Johnson, prif weinidog Prydain, er mwyn sicrhau ei fod yn atebol am ei “weithredoedd trychinebus”.

Yn ôl Ian Blackford, arweinydd y blaid Albanaidd yn San Steffan, byddan nhw’n manteisio ar yr amser sy’n cael ei neilltuo ar gyfer y gwrthbleidiau yn San Steffan i gyflwyno’r cynnig.

Mae’r blaid wedi bod yn feirniadol o “lywodraethiant di-drefn” yn Downing Street, gan gyhuddo’r prif weinidog o fod yn “niweidiol a pheryglus”.

“Byddai hynny’n ddigon gwael yn ystod amserau cyffredin, ond mae’n anfaddeuol yng nghanol pandemig,” meddai Ian Blackford wrth gynhadledd yr SNP.

Peppa Pig a’r CBI

Wrth drafod araith Boris Johnson gerbron y CBI oedd yn cyfeirio at daith i Peppa Pig World, dywedodd Ian Blackford fod y prif weinidog “yn gynyddol allan o’i ddyfnder”.

Dywedodd o’i gartref ar ynys Skye nad yw swyddfa Boris Johnson “yn lle i rywun esgeulus”.

“Yn absenoldeb gweithredoedd gan eraill wrth ddal y prif weinidog hwn i gyfrif, ein gwaith ni unwaith eto fel Plaid Genedlaethol yr Alban yw gweithredu fel yr wrthblaid go iawn,” meddai.

“Ddydd Mawrth, fe fydd yr SNP yn defnyddio ein diwrnod y gwrthbleidiau i gyflwyno cynnig o gerydd yn erbyn y prif weinidog hwn.

“Oni bai bod y prif weinidog hwn yn cael ei geryddu, oni bai ei fod e’n wynebu canlyniadau ei weithredoedd trychinebus, nid yn unig y bydd e’n credu iddo gael dod i ffwrdd â’r llanast a wnaeth dros y misoedd diwethaf, ond fe fydd e’n credu y gall e ei wneud e unwaith eto.”

Mae Ian Blackford hefyd wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o “lygredd bwriadol”, gan gyfeirio at y sgandal arian am anrhydeddau, y sgandal arian am gytundebau, sgandal y neges destun am doriadau trethi a’r sgandal arian am lenni.

“Rhaid i’r Alban gael y cyfle i ddianc rhag y llygredd dinistriol hwnnw,” meddai.

“Oherwydd gydag annibyniaeth, gallwn wneud dipyn gwell na hyn.”