Mae trafodaethau brys ar y gweill ar ynysoedd y Caribî sydd dan reolaeth Ffrainc.

Mae hyn o ganlyniad i ymdriniaeth Llywodraeth Ffrainc o gyfyngiadau Covid-19 yno.

Dydy Ffrainc ddim yn ffyddiog o ddatrys y sefyllfa’n llawn, ond maen nhw’n gobeithio gwneud peth cynnydd, yn ôl ffynhonnell.

Mae’r bwriad i gyflwyno brechlynnau gorfodol ar gyfer gweithwyr iechyd wedi cythruddo rhai ar ynysoedd Guadeloupe a Martinique, lle mae trwch y boblogaeth yn bobol ddu.

Mae protestiadau wedi’u cynnal eisoes ynghylch safonau byw a’r berthynas â Paris, gyda nifer sylweddol yn dadlau y dylai’r ynysoedd gael gwneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain.

Ddydd Gwener (Tachwedd 26), fe wnaeth y llywodraeth ohirio’r orfodaeth ar weithwyr iechyd y sector cyhoeddus i gael eu brechu, ond mae swyddogion yn mynnu cynnal rhagor o drafodaethau.

Yn Guadeloupe, lle bu protestiadau ers wythnos a mwy, mae’r bobol yn amau gallu’r llywodraeth i ddatrys argyfyngau iechyd ar ôl i bobol gael eu gwenwyno gan blaleiddiad o gnydau bananas yn y 1970au.

Ond mae undebau ym Martinique wedi llofnodi cytundeb â swyddogion lleol i gychwyn trafodaethau ynghylch iechyd, prisiau ynni, ieuenctid a thrafnidiaeth hefyd.

Mae cyfres o gyrffiws wedi adfer rhywfaint o drefn yn dilyn trais pan gafodd yr heddlu eu saethu a siopau eu difrodi.

Mae awgrym erbyn hyn fod Ffrainc yn barod i roi mwy o hawliau i’r ynysoedd wneud eu penderfyniadau eu hunain.