Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn rhybuddio y gall fod angen cyflwyno rhagor o gyfyngiadau yn sgil yr amrywiolyn Covid-19 newydd, Omicron.

Mae deg o wledydd yn ardaloedd deheuol cyfandir Affrica ar restr deithio goch y Deyrnas Unedig, ac mae profion PCR bellach yn orfodol i unrhyw un sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig o’r gwledydd hynny.

Ond mae Nicola Sturgeon yn poeni nad yw’r mesurau hynny’n mynd yn ddigon pell, ac wedi dweud wrth raglen Andrew Marr ar y BBC fod “rhaid cadw meddwl agored” o ran gwneud beth bynnag sydd ei angen er mwyn cadw pobol yn ddiogel.

O 4 o’r gloch fore Mawrth (Tachwedd 30), bydd hi’n ofynnol i unrhyw un sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig o dramor gael prawf PCR ar yr ail ddiwrnod ar ôl cyrraedd, a hunanynysu hyd nes eu bod nhw’n cael prawf negyddol.

Bydd rhaid i unrhyw un sy’n dod i gysylltiad ag achos o Omicron hunanynysu, hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael dau ddos o frechlyn Covid-19.

Er bod Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn mynnu na allai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod wedi gweithredu’n gynt – rhywbeth mae Nicola Sturgeon hefyd yn ei gydnabod – mae prif weinidog yr Alban yn dweud y gall fod angen “mynd ymhellach”.

Gallai hynny gynnwys cyfyngu ar deithio rhwng yr Alban a Lloegr fel “ateb terfynol”, meddai.

Omicron

Daeth amrywiolyn Omicron i’r amlwg yn Ne Affrica gyntaf, ond mae bellach wedi ymledu i Awstralia, yr Almaen, Israel a Hong Kong.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi eu pryderon ynghylch yr amrywiolyn newydd, gan gynnwys pa mor gyflym mae’n gallu ymledu, ac a yw’r brechlynnau presennol yn cynnig digon o amddiffyniad yn ei erbyn.

Er bod achosion yn Lloegr, does dim achosion hysbys yn yr Alban hyd yn hyn.

“Rydyn ni wedi cynyddu ein gwyliadwraeth ac yn monitro hyn yn ofalus,” meddai Nicola Sturgeon.

“Gobeithio nad ydyn ni’n nodi achosion yn yr Alban, ond dw i’n credu y dylen ni gymryd y byddwn ni, felly dw i’n gofyn i bobol ymddwyn nawr fel pe bai’r amrywiolyn newydd yn yr Alban.

“Cydymffurfiwch â’r holl reoliadau a rhagofalon sydd yn eu lle ar hyn o bryd, cynyddwch ein cydymffurfiaeth ac fe fydd hynny yn ein helpu, os yw e yma, i arafu unrhyw berygl o ymlediad.”

Hyblyg

Er ei bod hi’n gobeithio na fydd angen cyflwyno cyfyngiadau newydd, dywed Nicola Sturgeon fod “rhaid bod yn hyblyg”.

“Dw i ddim yn mynd i eistedd yma 48 awr ar ôl amrywiolyn o’r feirws hwn a allai fod yn gynt yn lledaenu, a allai osgoi brechlynnau i ryw raddau, ac wfftio unrhyw beth,” meddai.

“Ond dydy hynny ddim yn golygu fy mod i eisiau bod mewn sefyllfa o orfodi’r math yma o warchodaeth eto, does neb ohonom eisiau bod yn y sefyllfa honno.”

Mae hi’n parhau i annog pobol i gael eu brechu, ac yn dweud nad yw llai o warchodaeth yn golygu dim gwarchodaeth o gwbl rhag y feirws.

“Mae’n dal yn mynd i fod yn wir fod gan frechlynnau gryn dipyn o effeithlonrwydd ac y bydd gennych chi fwy o warchodaeth ac y byddwch chi’n gwarchod pobol eraill yn fwy os ydych chi wedi cael eich brechu na phe baech chi heb.”