Mae timau’r Scarlets a Chaerdydd yn bwriadu dychwelyd i Gymru o Dde Affrica mor fuan â phosib ar ôl i’r wlad gael ei rhoi ar restr goch y Deyrnas Unedig ar gyfer teithio.

Roedd disgwyl i’r Scarlets chwarae eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn Durban fory (27 Tachwedd), tra bod disgwyl i Gaerdydd chwarae yn erbyn y Llewod yn Johannesburg ddydd Sul (28 Tachwedd).

Cafodd De Affrica, ynghyd â phum gwlad arall, eu gosod ar y rhestr goch neithiwr (25 Tachwedd) yn sgil pryderon ynghylch amrywiolyn newydd o Covid-19.

Yn ôl yr awdurdodau, dyma’r amrywiolyn “gwaethaf rydyn ni wedi’i weld hyd yn hyn”.

Dywedodd Rygbi Caerdydd eu bod nhw’n “bwriadu dod â staff o’r wlad cyn gynted â phosib”, gan ychwanegu eu bod nhw’n canolbwyntio ar “sicrhau diogelwch a lleisiant” pawb.

Yn sgil y datblygiadau, dywedodd y Scarlets: “Yn dilyn y newyddion am amrywiolyn Covid-19 newydd yn Ne Affrica, hoffai’r Scarlets roi sicrwydd i deuluoedd a ffrindiau ein bod ni’n gwneud pob ymdrech i gael pawb sydd ar y daith yn ôl i’r Deyrnas Unedig mor fuan â phosib.”

Bydd awyrennau o Dde Affrica, Namibia, Lesotho, Botswana, Eswatini, a Zimbabwe i Loegr yn cael eu hatal o ganol dydd heddiw (Dydd Gwener, 26 Tachwedd) ymlaen, a’r chwe gwlad yn cael eu symud at y rhestr goch.

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Sajid Javid, y gallai’r amrywiolyn newydd, B.1.1.529, a gafodd ei ddarganfod yn Ne Affrica, “ledaenu’n haws” nag amrywiolyn Delta, ac y “gallai’r brechlynnau sydd gennym ni ar hyn o bryd fod yn llai effeithiol”.

Rheolau newydd

Er nad oes achosion wedi cael eu canfod yng ngwledydd Prydain, fe fydd pawb sydd wedi cyrraedd o Dde Affrica yn y deng niwrnod diwethaf yn cael eu gwahodd i gymryd prawf.

Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddoe y bydd rhaid i bobol sy’n byw yn y Deyrnas Unedig neu Iwerddon, ac sy’n cyrraedd Lloegr rhwng canol dydd heddiw a 4yb ddydd Sul (28 Tachwedd) ar ôl bod yn unrhyw un o’r chwe gwlad ar y rhestr o fewn y deng niwrnod diwethaf, hunanynysu adre am ddeng niwrnod a chymryd profion PCR am ddiwrnod dau a diwrnod wyth.

Bydd rhaid i deithwyr – gan gynnwys rhai sy’n byw yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon – sy’n cyrraedd ar ôl 4yb ddydd Sul fwcio prawf a thalu i aros mewn gwesty i hunanynysu am ddeng niwrnod.

Bydd rhaid iddyn nhw gymryd prawf ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth hefyd.

Dydi Llywodraeth Cymru heb wneud datganiad swyddogol, ond maen nhw wedi bod yn dilyn yr un drefn o ran teithio rhyngwladol â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ers dechrau’r pandemig.

“Pryder”

O ganol dydd heddiw ymlaen, ni fydd pobol sydd ddim yn byw yn y Deyrnas Unedig neu Iwerddon, ac sydd wedi ymweld ag unrhyw un o’r chwe gwlad o fewn deng niwrnod, yn cael mynediad i wledydd Prydain.

Mae’r amrywiolyn yn cael ei ystyried fel “amrywiolyn sy’n cael ei ymchwilio” gan y Deyrnas Unedig, tra bod un o arbenigwyr Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig wedi’i ddisgrifio fel “yr amrywiolyn gwaethaf rydyn ni wedi’i weld hyd yn hyn”.

Mae 59 o achosion wedi cael eu cadarnhau hyd yn hyn, ac mae tua 30 o bethau’n wahanol am yr amrywiolyn hwn o gymharu â’r gwreiddiol.

Gallai hynny olygu ei fod yn trosglwyddo o un person i’r llall yn haws, ac yn gallu gwrthsefyll y brechlynnau.

Bydd arbenigwyr o Sefydliad Iechyd y Byd yn cyfarfod â’r awdurdodau yn Ne Affrica heddiw i asesu’r sefyllfa yn y wlad.

Gallai’r amrywiolyn dderbyn yr enw ‘Nu’, un o lythrennau’r wyddor Roegaidd.

Dywedodd yr awdurdodau yn y Deyrnas Unedig eu bod nhw’n “bryderus iawn” ar ôl edrych ar ddata ynghylch yr amrywiolyn ar fas data rhyngwladol, a gafodd ei uwchlwytho dridiau yn ôl.

Does yna ddim digon o dystiolaeth i alw’r amrywiolyn yn “amrywiolyn sy’n achosi pryder”, a does yna ddim tystiolaeth dda ar ei effaith ar effeithlonrwydd y brechlyn, ei allu i drosglwyddo, nag os yw’n achosi salwch gwaeth ai peidio, ar hyn o bryd.