Mae merch 12 oed wedi marw yn dilyn ymosodiad yng nghanol dinas Lerpwl neithiwr (nos Iau, 25 Tachwedd).

Dywedodd Heddlu Glannau Mersi bod Ava White wedi cael “anafiadau trychinebus” yn yr ymosodiad yn dilyn ffrae yn y ddinas tua 8.39pm, yn ystod digwyddiad i roi goleuadau’r Nadolig ymlaen.

Mae pedwar bachgen yn eu harddegau – un 13 oed, dau yn 14 oed ac un 15 oed – wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, meddai’r heddlu.

Pan gyrhaeddodd swyddogion yr heddlu roedd Ava, a oedd gyda’i ffrindiau, wedi llewygu ac yn cael cymorth cyntaf gan aelod o’r cyhoedd. Cafodd ei chludo i Ysbyty Alder Hey ond bu farw’n fuan wedyn.

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Jon Roy eu bod nhw’n credu bod Ava a’i ffrindiau wedi bod mewn ffrae a arweiniodd at yr ymosodiad arni, cyn i’r troseddwyr ffoi.

Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal i geisio darganfod achos ei marwolaeth.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd yr ymosodiad i gysylltu â nhw.