Mae argymhellion adolygiad i wella trafnidiaeth y Deyrnas Unedig yn cynnwys gwella’r cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr.
Mae Boris Johnson wedi addo creu rhwydwaith drafnidiaeth strategol dros y Deyrnas Unedig wedi i Syr Peter Hendy gyhoeddi ei Adolygiad ar Gysylltedd yr Undeb.
Yn ôl Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, mae trafnidiaeth yn “allweddol” i gadw cenhedloedd y Deyrnas Unedig yn agosach at ei gilydd.
Un o brif argymhellion yr adroddiad yw creu UKNet, a fyddai’n mapio lleoliadau strategol dros y wlad a phenderfynu sut y byddai’n bosib cysylltu nhw â’i gilydd, gan gynnig cyllid i ardaloedd sy’n tanberfformio ar y rhwydwaith.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cael eu gwahodd i gydweithio ar yr adroddiad, maen nhw’n dweud nad ydyn nhw wedi derbyn copi o’r adroddiad.
Mewn trydariad dywedodd Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, Lee Waters, nad yw wedi edrych trwy’r adroddiad eto “oherwydd ni wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei rannu”.
“Ond dw i’n gweld nad yw Syr Peter wedi cefnogi galwadau’r Prif Weinidog i adeiladu’r M4.”
Haven't gone through the Hendy report on Union Connectivity yet because the UK Government didn't share it.
But I see Sir Peter has not endorsed the PMs call to build the M4. Instead it backs "speedily implementing the Burns Commission recommendations" https://t.co/nOnEat0haN
— Lee Waters MS (@Amanwy) November 26, 2021
Mae’r adroddiad yn cynnwys gwneud gwelliannau i’r ffyrdd a’r rheilffyrdd rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, uwchraddio’r M4, ac ychwanegu gorsafoedd at brif linell reilffordd y de.
Yn ogystal, mae’r adroddiad yn cynnwys gwneud gwelliannau i’r A55, yr M53 a’r M56, a gwella teithio i, ac o, Iwerddon drwy’r gogledd.
Mae Plaid Cymru wedi bod yn gofyn am wella’r cysylltiad rheilffyrdd rhwng y de a gogledd Cymru.
“Glynu cenhedloedd at ei gilydd”
Dywedodd Syr Peter Hendy fod ei “argymhellion yn cynnig cynlluniau cynhwysol, eglur, sydd o fewn cyrraedd er mwyn cael gwell cysylltedd i’r Deyrnas Unedig i gyd, gan arwain at fwy o dwf, swyddi, tai, a chydlyniad cymdeithasol.
“Dw i’n croesawu’r brwdfrydedd sydd wedi’i ddangos gan y Prif Weinidog a’r Llywodraeth tuag at fy adroddiad terfynol a dw i’n edrych ymlaen at glywed eu hymateb ffurfiol i’m hargymhellion, sy’n anelu at ledaenu cyfleoedd a llewyrch dros y Deyrnas Unedig i gyd.”
Un peth sydd ar goll yw cyhoeddiad am dwnnel neu bont i gysylltu’r Alban a Gogledd Iwerddon, ond yn ôl y Sunday Telegraph, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi anghofio am y cynllun hwnnw.
Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, Grant Shapps: “Mae trafnidiaeth yn allweddol i gadw cenhedloedd y Deyrnas Unedig yn agosach at ei gilydd.
“Dyw hi ddim yn ddigon da bod rhai ardaloedd o’r Deyrnas Unedig yn ffynnu tra bod eraill yn cael eu gadael ar ôl.
“Mae’n rhaid i ni ddeall ein potensial cenedlaethol yn llawn, ac mae hynny’n golygu defnyddio’r adnoddau a’r sgiliau ymhob rhan o’r wlad hon.”